Toggle menu

1. Canllaw Defnyddiwr

7.Gofynion eraill o ran cyllid

7.1         Adrodd ynghylch perfformiad

Rydym yn awyddus i glywed am sut y mae eich prosiect yn dod yn ei flaen a beth yr ydych wedi'i gyflawni â'r cyllid. Yn rhan o'ch gwaith adrodd ffurfiol ynghylch eich grant, bydd yn rhaid i chi roi diweddariadau i ni ynghylch eich prosiect yn ystod oes y prosiect. Fel rheol, byddwn yn disgwyl diweddariad ynghylch y prosiect bob mis a bob tro y byddwch yn gofyn am daliad.

Byddwn yn cyfeirio at y cerrig milltir allweddol a nodwyd yn eich cynllun cyflawni prosiect, ac yn cytuno ar rai meini prawf perfformiad â chi er mwyn helpu i sicrhau bod eich prosiect yn parhau i fod ar y trywydd iawn. Mae'n bosibl y byddwn yn cytuno ar rai mesurau unioni â chi os byddwch yn ei chael yn anodd cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus. Os na fyddwch yn gallu cwblhau'r prosiect, bydd eich grant yn cael ei adfachu yn unol â thelerau'r grant.

7.2         Perchnogaeth

Rydym yn disgwyl i chi fod yn berchen ar unrhyw eiddo (tir, adeiladau, ac ati) y byddwch yn gwario'r grant arno neu rydym yn disgwyl bod gennych fuddiant cyfreithiol sylweddol ynddo. Rhaid eich bod yn berchen ar y rhydd-ddaliad neu fod gennych brydles y mae o leiaf 15 mlynedd ohoni'n weddill ar ôl dyddiad cwblhau eich prosiect. Rhaid bod pob prydles yn bodloni'r gofynion canlynol:

  • nid ydym yn derbyn prydlesi sydd â chymalau terfynu (mae'r rhain yn rhoi i un neu fwy o bartïon y brydles yr hawl i ddod â'r brydles i ben mewn rhai amgylchiadau)
  • nid ydym yn derbyn prydlesi sydd â chymalau fforffedu adeg ansolfedd (mae'r rhain yn rhoi hawl i'r landlord ddod â'r brydles i ben os yw'r tenant yn mynd yn ansolfent)
  • mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwerthu eich prydles, is-osod y cyfan neu ran ohoni a'i morgeisio ond, os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid yn gyntaf i chi gael caniatâd gennym i wneud unrhyw un o'r pethau hynny.

7.3         Yswirio gwaith ac eiddo

Rhaid i chi, gyda'ch contractwyr, drefnu yswiriant priodol ar gyfer unrhyw eiddo, gwaith, deunyddiau a nwyddau sy'n rhan o'ch prosiect. Rhaid bod yr yswiriant ar gyfer pob un o'r rhain yn ddigon i dalu cost lawn eu hadfer yn dilyn colled neu ddifrod, gan gynnwys chwyddiant a ffïoedd proffesiynol.

Os bydd tân, mellten, storm neu ddifrod oherwydd llifogydd yn effeithio ar eich prosiect, i'r graddau na allwch gwblhau'r prosiect fel y nodwyd yn eich cais, gallwn ystyried hawlio ein grant yn ôl.

7.4         Caffael a gwerth cymdeithasol

Rhaid i chi ddilyn ein Canllawiau Caffael. Gofynnir i chi egluro'r agweddau ehangach ar eich cynnig, sy'n ymwneud â gwerth cymdeithasol, gan gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys agweddau sy'n gwarchod diwylliant, treftadaeth, a'r iaith Gymraeg lle bo'n berthnasol.

7.5         Y Gymraeg

Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd ar eich gwaith. Dylech ddweud wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn hybu'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Rhaid i chi gydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a glynu wrth yr egwyddorion a nodir yn Safonau'r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion. Mae copi llawn o'r Safonau hynny ar gael ar wefan y Cyngor, i'r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni prosiect. Pan gaiff ceisiadau eu hasesu, byddwn hefyd yn cyfeirio at Bolisi'r Gymraeg ar gyfer Dyfarnu Grantiau Cyngor Sir Ceredigion er mwyn sicrhau bod cynigion yn cydymffurfio ag ef.

7.6         Cynllun rheoli cymorthdaliadau SC11278

Pan fydd unrhyw grant yn dod o arian cyhoeddus, bydd yn rhwym wrth ofynion Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r ddeddfwriaeth honno. Cymhorthdal yw achos lle mae awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus, sy'n roi mantais economaidd i'r sawl sy'n cael y cymorth, os gall y sawl dan sylw gymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd.

Aseswyd bod y Gronfa yn Gynllun Cymorthdaliadau newydd, ac yn unol â'r Ddeddf mae wedi cael ei chofrestru felly. Rhif y Cynllun Cofrestredig yw SC11278. O ganlyniad, nid oes angen i brosiectau unigol sy'n cael arian grant gan y Gronfa gyflwyno asesiadau rheoli cymorthdaliadau, ond rhai i bob dyfarniad gael ei gofnodi ar 'gronfa ddata tryloywder'.

Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a yw eich grant yn cydymffurfio â pharamedrau'r Cynllun Cofrestredig. Rydym yn cadw'r hawl i gyflwyno gofynion pellach a gofyn am wybodaeth bellach i'r perwyl hwn, a byddwn yn disgwyl i chi roi i ni unrhyw gymorth y gallai fod arnom ei angen i gwblhau ein hasesiad.

7.7         Gwarant ar gyfer y grant

Os yw unrhyw ddyfarniad grant yn werth dros £250,000, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am arwystl ar yr eiddo a ariennir gan y grant.

Bydd angen i chi anfon manylion cyswllt eich cyfreithiwr atom cyn gynted ag sy'n bosibl os dyfernir grant i chi. Bydd angen i'ch cyfreithiwr ddarparu copïau o'r teitl swyddogol gan y Gofrestrfa Tir (ynghyd â chynllun y teitl a gwybodaeth angenrheidiol arall) er mwyn ein galluogi ni i ddrafftio dogfennau'r arwystl. Bydd hynny'n cynnwys ymrwymiad gan eich cyfreithiwr i weithredu ar ein rhan i gyflawni'r holl chwiliadau perthnasol cyn cwblhau, ac i gofrestru'r arwystl yn y Gofrestrfa Tir ac yn Nhŷ'r Cwmnïau (os yn briodol).

Chi fydd yn gyfrifol am dalu ffïoedd a chostau eich cyfreithiwr, ond cewch gynnwys cost cyngor cyfreithiol yn rhan o gostau'r prosiect yn eich cais.

7.8         Embargos a sancsiynau gan y llywodraeth

Rhaid nad yw ein grantiau'n cael eu defnyddio i ariannu busnesau sy'n cefnogi eithafiaeth neu weithgarwch troseddol a/neu sy'n destun embargos neu sancsiynau gan y llywodraeth. Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a'r holl reoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect a chyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun yng nghyswllt unrhyw arian, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn destun embargos a sancsiynau gan y llywodraeth. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu taliadau grant yn ôl os byddwn o'r farn bod arian cyhoeddus mewn perygl.

7.9         Hyrwyddo a chydnabod cyllid

Mae cydnabod unrhyw grant gan Gronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru yn ystyriaeth bwysig i'ch prosiect. Dyma eich cyfle i ddangos sut y mae cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r economi leol.

Bydd cynllunio gweithgarwch hyrwyddo'n gynnar yn eich helpu i gyflawni ein gofynion a chydnabod y cymorth hwn mewn ffyrdd sy'n greadigol ac sy'n gymesur â maint y grant.

Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer costau cyhoeddusrwydd a gwaith hyrwyddo yn eich cynigion.

Defnyddiwch yr Arweiniad ynghylch Cyhoeddusrwydd a luniwyd gennym i'ch helpu i gynllunio eich gweithgareddau hyrwyddo.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu