Toggle menu

Newyddion a Digwyddiadau

Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Dyfu Canolbarth Cymru, datblygiadau am weithgarwch a sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi trwy ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: X (Yn flaenorol yn cael ei alw'n Twitter) https://twitter.com/growingmidwales LinkedIn: www.linkedin.com/company/growing-mid-wales

Bargen Twf Canolbarth Cymru yn sicrhau cyllid pellach i gefnogi cynnydd rhanbarthol

19.03.2026 Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi croesawu rhyddhau cyfran bellach o gyllid, £11.857m, gan Lywodraethau'r DU a Chymru drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru — gan atgyfnerthu eu hymrwymiad parhaus i'r rhanbarth a chefnogi cynnydd wrth i brosiectau symud drwy'r camau datblygu tuag at gyflawni.

Peilot Cyswllt Gyrfa yn cysylltu dysgwyr Canolbarth Cymru â chyflogwyr lleol

25.02.26 Mae dysgwyr ledled Canolbarth Cymru yn cael cipolwg uniongyrchol ar gyfleoedd gyrfa lleol drwy beilot newydd Cyswllt Gyrfa, partneriaeth rhwng Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru a Gyrfa Cymru.

Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru

18.03.26 Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru, a ddatblygwyd gan Tyfu Canolbarth Cymru fel Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, bellach wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Prosiect ynni glân newydd yn archwilio hydrogen gwyrdd ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru

18.02.26 Mae prosiect ynni glân newydd ym Mhontarfynach, Ceredigion, wedi ymuno â phortffolio cynyddol o weithgarwch arloesi sy'n cael ei gefnogi drwy Dyfu Canolbarth Cymru, gan archwilio sut y gallai hydrogen gwyrdd a gynhyrchir yn lleol helpu i leihau allyriadau yn y sector coedwigaeth.

Cyllid o £2.95m Innovate UK wedi'i ddyfarnu i naw prosiect technoleg amaeth a thechnoleg bwyd

26.01.26 Mae naw prosiect arloesol ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru wedi sicrhau cyfanswm o £2.95 miliwn mewn cyllid Ymchwil a Datblygu Cydweithredol gan Innovate UK, gan gryfhau ecosystem arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd y rhanbarth.

Gweinidog yn gweld potensial twf Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd

23.01.26 Mae Gweinidog o Swyddfa Cymru wedi clywed am gynlluniau i ddatblygu Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd ar ymweliad i Brifysgol Aberystwyth.

Galwad ar agor yn awr am brosiectau cyfalaf newydd yn y canolbarth wrth i'r rhanbarth ddatblygu rhestr wedi'i diweddaru o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi

10.12.2025 Caiff sefydliadau ar draws y canolbarth eu gwahodd yn awr i gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau cyfalaf newydd er mwyn helpu i lunio rhestr ranbarthol gryfach o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi. Mae'r alwad agored yn fyw erbyn hyn.

Ymweliad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol â safleoedd arloesi allweddol yng Nghanolbarth Cymru

26.11.25 Ymwelodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, â Chanolbarth Cymru ar 25 Tachwedd i archwilio cyfleoedd hirdymor ar gyfer economi ranbarthol ffyniannus a chynaliadwy.

Prosiectau Canolbarth Cymru yn symud i'r cam prototeipiau i ddarparu atebion ynni glân yn y byd go iawn

13.11.25 Mae'n bleser gan Tyfu Canolbarth Cymru gyhoeddi y bydd y rhaglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID), a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Tyfu Canolbarth Cymru, yn parhau.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • o 7
  • Nesaf tudalen