Toggle menu

1. Canllaw Defnyddiwr

1. Trosolwg

1.1         Yn gyffredinol

Cronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru yw rhaglen gyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru ar gyfer cyd-fuddsoddi â mentrau sydd yn y rhanbarth yn barod (neu fentrau sy'n bwriadu symud yma) er mwyn:

  • Ei gwneud yn bosibl datblygu eiddo masnachol newydd, sy'n cynnwys darparu seilwaith a chyfleustodau fel y bo angen; neu
  • Ei gwneud yn bosibl ymestyn, adnewyddu/ailwampio neu addasu eiddo masnachol sy'n bodoli eisoes, neu gyflawni gwaith ôl-osod iddo.

Bwriad y Gronfa yw cynorthwyo i ddarparu mannau newydd a modern i alluogi ein busnesau i dyfu a buddsoddi'n lleol er lles y rhanbarth.

Mae gan y Gronfa dri amcan buddsoddi allweddol y bydd angen i chi eu hystyried yn eich cais. At hynny, mae cyfres ehangach o amcanion wedi'i sefydlu ar gyfer y Gronfa (a elwir yn Ffactorau Llwyddiant Allweddol). Bydd perfformio'n dda ar sail y rhain yn gwella eich siawns o lwyddo ac yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd yn y canolbarth.

1.2         Ein hamcanion buddsoddi

Mae tri amcan buddsoddi yn llywio holl benderfyniadau Bargen Twf Canolbarth Cymru ynghylch grantiau:

  • Buddsoddi yn y cyfleoedd cywir er mwyn galluogi busnesau i dyfu, yn enwedig os gellir ysgogi arian neu gyllid gan y sector preifat.
  • Gwella cyfoeth rhanbarthol a chryfder yr economi leol.
  • Creu swyddi newydd, cynaliadwy a gwerthfawr.

Rhaid i chi ystyried pob un o'r tri amcan buddsoddi yn eich cais. Gallwch wneud hynny drwy sicrhau:

  • O ran yr amcan cyntaf, eich bod yn ceisio am gyllid grant ar lefel sy'n briodol i faint eich prosiect - un sy'n ysgogi arian/cyllid gan y sector preifat gan leihau'r bwlch hyfywedd y mae arnoch angen y grant hwn i'w lenwi.
  • O ran yr ail amcan, eich bod yn dangos sut y gall eich prosiect ychwanegu at Werth Ychwanegol Gros y rhanbarth.
  • O ran y trydydd amcan, eich bod yn dweud wrthym faint o swyddi newydd, cynaliadwy y bydd eich menter yn eu creu.

1.3         Cyfyngiadau'r Gronfa

Disgwylir y bydd costau gwaith y prosiectau a gaiff eu cefnogi yn werth rhwng £250,000 a £2.5m. Bydd y rhaglen yn darparu cyllid bwlch hyfywedd yn niffyg unrhyw gyllid arall er mwyn helpu i sicrhau hyfywedd y prosiect. Bydd angen, felly, i chi ystyried sut y byddwch yn gallu ariannu gweddill cost gyfan y prosiect (gan gynnwys y costau nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr amcangyfrif o gostau'r gwaith) a bydd angen i chi sôn wrthym am hynny yn eich cais. Bydd pob prosiect yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd (neu ganran talu) a gytunwyd. Beth bynnag, ni all cyfraniad y Gronfa fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m.

Mae'r Gronfa yn agored i gwmnïau sy'n gweithredu mewn sectorau busnes penodol, ond NID yw'n agored i awdurdodau lleol y rhanbarth nac i gyrff cyhoeddus eraill neu elusennau. At hynny, nid yw'n Gronfa i gefnogi'r farchnad datblygu eiddo yn y sector preifat.

1.4         Y broses gwneud cais

Dylech gael sgwrs gychwynnol â Thîm Rheoli'r Gronfa er mwyn asesu a yw'r Gronfa yn briodol i chi. Os cytunir ei bod yn briodol, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Hyfywedd' cyn pen dau fis. Os byddwch yn llwyddiannus yn ystod y cam hwnnw, byddwch yn cael eich gwahodd wedyn i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig'. Bydd angen i chi dalu unrhyw gostau yr eir iddynt wrth ddatblygu eich cynigion. Mae terfynau amser ar waith ar gyfer symud eich cynigion drwy bob cam ac ar gyfer y Cam Cyflawni (sydd y tu hwnt i unrhyw ddyfarniad grant).

Gellir cysylltu â Thîm Rheoli'r Gronfa drwy ebost yma: growingmidwales@ceredigion.gov.uk.

1.5         A yw'r rhaglen hon yn briodol i chi?

Gofynnwch y cwestiynau allweddol hyn i chi'ch hun:

  • A yw eich busnes yn awyddus i dyfu ond yn cael ei atal rhag gwneud hynny oherwydd problem sy'n ymwneud ag eiddo?
  • A fydd eich prosiect yn ymateb i'n tri amcan buddsoddi allweddol?
  • A oes angen grant arnoch i gau bwlch hyfywedd ariannol?
  • A fydd eich prosiect ar waith am ddwy flynedd ar y mwyaf ar ôl unrhyw ddyfarniad grant?

Os gwnaethoch roi ateb cadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod, gallai'r Gronfa fod yn addas i chi.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu