Cronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru yw rhaglen gyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru ar gyfer cyd-fuddsoddi â mentrau sydd yn y rhanbarth yn barod (neu fentrau sy'n bwriadu symud yma) er mwyn:
Ei gwneud yn bosibl datblygu eiddo masnachol newydd, sy'n cynnwys darparu seilwaith a chyfleustodau fel y bo angen; neu
Ei gwneud yn bosibl ymestyn, adnewyddu/ailwampio neu addasu eiddo masnachol sy'n bodoli eisoes, neu gyflawni gwaith ôl-osod iddo.
Bwriad y Gronfa yw cynorthwyo i ddarparu mannau newydd a modern i alluogi ein busnesau i dyfu a buddsoddi'n lleol er lles y rhanbarth.
Mae gan y Gronfa dri amcan buddsoddi allweddol y bydd angen i chi eu hystyried yn eich cais. At hynny, mae cyfres ehangach o amcanion wedi'i sefydlu ar gyfer y Gronfa (a elwir yn Ffactorau Llwyddiant Allweddol). Bydd perfformio'n dda ar sail y rhain yn gwella eich siawns o lwyddo ac yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd yn y canolbarth.
1.2 Ein hamcanion buddsoddi
Mae tri amcan buddsoddi yn llywio holl benderfyniadau Bargen Twf Canolbarth Cymru ynghylch grantiau:
Buddsoddi yn y cyfleoedd cywir er mwyn galluogi busnesau i dyfu, yn enwedig os gellir ysgogi arian neu gyllid gan y sector preifat.
Gwella cyfoeth rhanbarthol a chryfder yr economi leol.
Creu swyddi newydd, cynaliadwy a gwerthfawr.
Rhaid i chi ystyried pob un o'r tri amcan buddsoddi yn eich cais. Gallwch wneud hynny drwy sicrhau:
O ran yr amcan cyntaf, eich bod yn ceisio am gyllid grant ar lefel sy'n briodol i faint eich prosiect - un sy'n ysgogi arian/cyllid gan y sector preifat gan leihau'r bwlch hyfywedd y mae arnoch angen y grant hwn i'w lenwi.
O ran yr ail amcan, eich bod yn dangos sut y gall eich prosiect ychwanegu at Werth Ychwanegol Gros y rhanbarth.
O ran y trydydd amcan, eich bod yn dweud wrthym faint o swyddi newydd, cynaliadwy y bydd eich menter yn eu creu.
1.3 Cyfyngiadau'r Gronfa
Disgwylir y bydd costau gwaith y prosiectau a gaiff eu cefnogi yn werth rhwng £250,000 a £2.5m. Bydd y rhaglen yn darparu cyllid bwlch hyfywedd yn niffyg unrhyw gyllid arall er mwyn helpu i sicrhau hyfywedd y prosiect. Bydd angen, felly, i chi ystyried sut y byddwch yn gallu ariannu gweddill cost gyfan y prosiect (gan gynnwys y costau nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr amcangyfrif o gostau'r gwaith) a bydd angen i chi sôn wrthym am hynny yn eich cais. Bydd pob prosiect yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd (neu ganran talu) a gytunwyd. Beth bynnag, ni all cyfraniad y Gronfa fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m.
Mae'r Gronfa yn agored i gwmnïau sy'n gweithredu mewn sectorau busnes penodol, ond NID yw'n agored i awdurdodau lleol y rhanbarth nac i gyrff cyhoeddus eraill neu elusennau. At hynny, nid yw'n Gronfa i gefnogi'r farchnad datblygu eiddo yn y sector preifat.
1.4 Y broses gwneud cais
Dylech gael sgwrs gychwynnol â Thîm Rheoli'r Gronfa er mwyn asesu a yw'r Gronfa yn briodol i chi. Os cytunir ei bod yn briodol, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Hyfywedd' cyn pen dau fis. Os byddwch yn llwyddiannus yn ystod y cam hwnnw, byddwch yn cael eich gwahodd wedyn i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig'. Bydd angen i chi dalu unrhyw gostau yr eir iddynt wrth ddatblygu eich cynigion. Mae terfynau amser ar waith ar gyfer symud eich cynigion drwy bob cam ac ar gyfer y Cam Cyflawni (sydd y tu hwnt i unrhyw ddyfarniad grant).
Gofynnwch y cwestiynau allweddol hyn i chi'ch hun:
A yw eich busnes yn awyddus i dyfu ond yn cael ei atal rhag gwneud hynny oherwydd problem sy'n ymwneud ag eiddo?
A fydd eich prosiect yn ymateb i'n tri amcan buddsoddi allweddol?
A oes angen grant arnoch i gau bwlch hyfywedd ariannol?
A fydd eich prosiect ar waith am ddwy flynedd ar y mwyaf ar ôl unrhyw ddyfarniad grant?
Os gwnaethoch roi ateb cadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod, gallai'r Gronfa fod yn addas i chi.
2. Pwy all wneud cais
2.1 Yn debygol
Bydd unrhyw fusnes preifat sydd wedi'i sefydlu yn ffurfiol yn gwmni (yn gwmni cyfyngedig neu'n gwmni cyfyngedig drwy warant) neu'n bartneriaeth (drwy gytundeb partneriaeth) yn gymwys i gael grant dan y Gronfa os yw'n gweithredu yn un o'r sectorau canlynol:
Adeiladu
Trydan, nwy, ager, aerdymheru a phlymio
Gwybodaeth a chyfathrebu
Gweithgynhyrchu
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
Eiddo tiriog
Cyfanwerthu, manwerthu a phrynu a gwerthu moduron.
Rhaid bod y mentrau sy'n cyflwyno ceisiadau wedi'u cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau, rhaid bod ganddynt gyfrif banc a dogfen ynghylch llywodraethiant a rhaid bod ganddynt ddau neu fwy o Aelodau Bwrdd cofrestredig nad ydynt yn perthyn i'w gilydd ac nad ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad.
2.2 Yn annhebygol
NID yw'r Gronfa yn agored i'r sawl sy'n ceisio datblygu eiddo, lle na fydd y buddiolwyr yn meddiannu maes o law y cyfleusterau a grëwyd gan ddefnyddio arian y Gronfa. NID yw hon yn Gronfa i gefnogi'r farchnad datblygu eiddo yn y sector preifat.
At hynny, NID yw'r Gronfa yn agored i awdurdodau lleol y rhanbarth nac i gyrff cyhoeddus eraill neu elusennau.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i wneud cais, cysylltwch â Thîm Rheoli'r Gronfa. Gellir cysylltu â'r Tîm drwy ebost yma: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
2.3 Partneriaethau
Nid ydym yn rhagweld y bydd prosiectau'n gyffredinol o faint sy'n golygu y bydd mentrau'n ymrwymo i bartneriaeth â busnesau eraill neu gyrff trydydd parti er mwyn cyflawni'r prosiect. Os ydych yn bwriadu gweithio gyda busnes arall i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, rhaid i chi ffurfioli eich perthynas drwy gytundeb partneriaeth.
Mewn achos o'r fath, bydd angen hefyd i chi benderfynu pa fusnes fydd yn ymgeisydd arweiniol. Bydd yr ymgeisydd arweiniol yn paratoi'r cais ac, os bydd yn llwyddiannus, yn cael y grant ac yn darparu diweddariadau ynghylch y prosiect. Fel rheol, byddwn yn disgwyl mai perchennog yr eiddo fydd yr ymgeisydd arweiniol. Os nad y perchennog yw'r ymgeisydd arweiniol, mae'n bosibl y bydd rhai amodau grant penodol yn cael eu gosod.
Nid yw partneriaid yn is-gontractwyr. Byddant yn cyflawni rôl weithredol yn y prosiect ac yn helpu i gyflwyno adroddiadau, yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd ynghylch cynnydd ac yn darparu gwybodaeth ynglŷn â gwerthuso'r prosiect.
Rhaid nad yw eich prosiect wedi dechrau cyn ein bod yn eich gwahodd i ddatblygu 'Cynnig Hyfywedd'.
Mae yna amserlenni ar gyfer cwblhau pob un o gamau'r broses gwneud cais.
Rhaid eich bod yn gallu cyfrannu o leiaf 55% o gostau cyfan eich prosiect.
Ni fydd unrhyw gyllid ar gael ymlaen llaw ar gyfer costau datblygu'r prosiect, ond cyn gynted ag y bydd eich cynnig llawn wedi'i gymeradwyo ac y bydd dyfarniad grant wedi'i gadarnhau, bydd modd i chi hawlio costau cymwys yn ôl-weithredol.
Gall yr holl gostau cyflawni cymwys gael eu hawlio'n ôl-weithredol bob chwarter.
Mae gennym lawer o arweiniad ynghylch arfer da. Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr arweiniad i gyd er mwyn eich helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect.
Mae'n bwysig cynllunio eich prosiect yn ofalus, gan gynnwys y costau a'r amserlenni, a chael cefnogaeth i'ch prosiect cyn dechrau llunio eich cynigion. Bydd yr arweiniad isod yn eich helpu i feddwl am yr hyn y dylech ei ystyried a'r costau sydd i'w talu.
3.2 Beth y byddwn yn ei ariannu
Bydd pob prosiect yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd (neu ganran talu) a gytunwyd. Beth bynnag, ni all cyfraniad y Gronfa fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m.
Rydym yn ariannu prosiectau:
sy'n canolbwyntio yn glir ar welliannau i eiddo masnachol
sy'n ystyried pob un o'r tri amcan buddsoddi
sydd â chynllun clir gyda dechrau, canol a diwedd pendant
nad ydynt wedi dechrau'n barod
sy'n gallu dangos yr angen am fuddsoddiad gan Fargen Twf Canolbarth Cymru.
Gall y Gronfa gefnogi ystod eang o weithgareddau a chostau uniongyrchol prosiectau, e.e.:
gwaith cyfalaf: codi eiddo newydd, ymestyn a moderneiddio eiddo, a gwaith cadwraeth
ffïoedd a gwasanaethau proffesiynol
costau gwaith hyrwyddo / digwyddiadau
costau yswiriant sy'n ymwneud â phrosiectau
caffael tir a chostau sy'n gysylltiedig â'i brynu.
Mae arweiniad penodol ar gael ynghylch Costau Cyfalaf Cymwys y gellir eu cynnwys.
3.3 Eich cyfraniad chi i gostau'r prosiect
Disgwylir i arian Bargen Twf Canolbarth Cymru ysgogi cyllid ar y cyd gan bartneriaid prosiectau ar draws holl bortffolio gweithgarwch y Fargen Twf.
Rhaid eich bod yn gallu cyfrannu o leiaf 55% o gostau cyfan eich prosiect. Gall hynny gynnwys cyfraniadau sydd ar ffurf arian parod a chyfraniadau nad ydynt ar ffurf arian parod, costau safle neu gyfuniad o bob un o'r rhain.
Os yw eich prosiect yn cael cyllid gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill, gall hynny gael ei ystyried yn rhan o'ch cyllid ar y cyd. Fodd bynnag, bydd gwerth cyfraniad(au) o'r fath yn cael ei ychwanegu at werth y grant a geisir gan y Gronfa hon. Ni all gwerth cyfun pob cyfraniad o'r fath fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m, h.y. bydd y gyfradd ymyrryd gan y Gronfa hon yn cael ei gostwng er mwyn ystyried cyllid ar y cyd gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill.
4. Y broses gwneud cais
Mae proses y Gronfa ar gyfer gwneud cais wedi'i rhannu yn bedwar cam, a'r cam olaf yw gweld eich prosiect yn cael ei weithredu a'r manteision yn cael eu gwireddu, sef y Cam Cyflawni.
4.1 Galwad Agored
Bydd 'Galwad Agored' yn cael ei lansio er mwyn i fentrau gynnig eu syniadau i ni eu hystyried. Bydd Galwadau Agored yn cael eu hysbysebu'n eang ar draws nifer o sianelau cyfathrebu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag sy'n bosibl.
P'un a fyddwch yn dod i wybod am y Gronfa drwy'r Alwad Agored ai peidio, rhaid i chi gael sgwrs gychwynnol â Thîm Rheoli'r Gronfa. Bydd y Tîm yn trafod cyfyngiadau'r Gronfa â chi ac yn penderfynu a yw eich syniadau'n bodloni dyheadau cyffredinol y Gronfa. Os ydynt, byddwch wedyn yn cael eich gwahodd yn ffurfiol i gyflwyno 'Cynnig Hyfywedd'.
Rhaid nad yw eich prosiect wedi dechrau cyn ein bod yn eich gwahodd i gyflwyno cynnig. Ni all unrhyw gostau yr aethpwyd iddynt ar gyfer gwaith a wnaed hyd yr adeg honno gael eu cynnwys.
Bydd unrhyw gais am grant dan y Gronfa hon yn cystadlu â phrosiectau eraill.
4.2 Cam Hyfywedd
Os cewch eich gwahodd, bydd gennych uchafswm o ddau fis i gyflwyno eich 'Cynnig Hyfywedd'. Rhaid i'ch cynnig gael ei gyflwyno gan ddefnyddio ein E-Ffurflen Cynnig Hyfywedd, gan glymu unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol wrthi.
Pan fyddwn wedi cael y ffurflen, byddwn yn asesu eich cais cyn pen mis. Ar ôl i'r cais gael ei asesu, bydd yn cael ei bennu i'r cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Os byddwn yn penderfynu peidio â'ch gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig', byddwn yn esbonio pam. Gallwch fyfyrio ynghylch ein rhesymau a cheisio gwella eich cais, ond bydd yn rhaid i chi aros tan yr Alwad Agored nesaf cyn ailgyflwyno unrhyw beth.
Nid yw derbyn gwahoddiad i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig' yn gwarantu y byddwch yn cael dyfarniad grant.
4.3 Cam Datblygu
Dylech ganiatáu digon o amser i fynd drwy eich cynnig yn fanylach a sicrhau ei fod wedi'i ystyried yn llawn erbyn yr adeg y byddwch yn cyflwyno 'Cynnig Datblygedig'. Rhaid i'ch cynnig gael ei gyflwyno gan ddefnyddio ein E-Ffurflen Cynnig Datblygedig, gan glymu unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol wrthi.
Dylech feithrin dealltwriaeth well o'r costau, yr adnoddau, yr amserlen, ac anghenion eich menter (a allai olygu hefyd bod angen ymgynghori â'ch cwsmeriaid) a dylech ddefnyddio'r wybodaeth honno'n sail i'ch cynnig.
Bydd gennych uchafswm o chwe mis i gyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig'. Pan fyddwn wedi cael y ffurflen a'r holl ddogfennau ategol angenrheidiol, byddwn yn asesu eich cais cyn pen mis. Ar ôl i'r cais gael ei asesu, bydd yn cael ei bennu i'r cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Mae'r gwaith o ddatblygu cynigion yn debygol o gynnwys y canlynol:
ymgynghori â phobl y tu allan i'ch busnes
adolygu eich trefniadau llywodraethiant
cynllunio busnes
gwneud gwaith dylunio a chynllunio manwl
cynnal unrhyw arolygon neu ymchwiliadau sy'n ofynnol.
Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi Dyfarniad Grant Dros Dro i chi. Os byddwn yn penderfynu peidio â chymeradwyo eich cynnig, byddwn yn esbonio pam.
4.4 Cam Cyflawni
Bydd hwn yn digwydd ar ôl dyfarnu grant, ac yn y bôn mae'n golygu creu'r cyfleusterau newydd yr ydym wedi cytuno i'w cefnogi (a fydd fel rheol yn cynnwys gweithgarwch Camau 4 i 6 RIBA). Byddwn yn trafod eich cynllun cyflawni prosiect â chi yn ystod y Cam Datblygu. Dylech ddarparu gwybodaeth fanwl am eich cynigion cyflawni yn eich cais.
Pan fydd Cam 4 RIBA wedi'i gwblhau, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn dal mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r prosiect a chyflawni'r allbynnau a'r canlyniadau a nodwyd. Pan fyddwch wedi cadarnhau hynny wrthym, byddwch yn cael Dyfarniad Grant Terfynol.
Bydd gennych hyd at ddwy flynedd i gwblhau'r Cam Cyflawni (gan gynnwys Cam 4 RIBA) oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar gyfnod hirach ar gyfer y prosiect.
4.5 Amserlen darged ar gyfer y broses o'i dechrau i'w diwedd
5. Datblygu eich cynigion
5.1 Cyd-fynd â chynllun gwaith Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain
Yn aml, bydd y gwaith o gyflawni prosiectau cyfalaf yn cyd-fynd â Chynllun Gwaith 2020 Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA (PDF, 75 KB), sy'n ffordd o ddatblygu eich cynigion yn raddol mewn camau rhesymegol, gyda phob cam wedi'i ddiffinio yn glir o safbwynt y mewnbynnau ac o safbwynt yr allbynnau a ddisgwylir. Ceir wyth o Gamau RIBA, a chânt eu hesbonio isod.
Ar gyfer eich 'Cynnig Hyfywedd', byddem yn disgwyl i chi fod wedi cwblhau gofynion Cam 0 RIBA (gwaith ar hyfywedd prosiect).
Ar gyfer eich 'Cynnig Datblygedig', byddem yn disgwyl i chi fod wedi cwblhau Camau 0 i 3 RIBA gan gynnwys Cam 3. Erbyn hynny, dylai eich prosiect fod wedi'i ddylunio i raddau helaeth ac wedi'i gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn iddo gael ei gymeradwyo, os yw hynny'n berthnasol[1].
Efallai na fyddwch wedi cwblhau'r dyluniadau technegol llawn, ond dylai fod gennych gostiadau pendant iawn sy'n dweud wrthych pa ganlyniadau ariannol y gallwch eu disgwyl pan gaiff y cynigion eu gosod ar dendr.
Rydym wedi paratoi Strategaeth Ddylunio i'ch arwain chi a dylunwyr eich prosiect. Mae glynu wrth y Strategaeth yn un o ofynion unrhyw ddyfarniad grant, a'i nod yw sicrhau bod cynigion o'r ansawdd gorau'n dod gerbron, sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ran gwerth cymdeithasol ar gyfer eich prosiect ac sy'n sicrhau'r ystyriaethau ehangach gorau posibl o ran Gwerth am Arian.
Disgwylir hefyd i chi brofi bod gennych y wybodaeth, y sgiliau, y capasiti a'r gallu angenrheidiol i ddylunio a chyflawni eich prosiect yn llwyddiannus, neu'ch bod wedi crynhoi'r pethau hynny ynghyd.
5.2 Adolygu cynnydd yn ystod y Cam Datblygu
Bydd Tîm Rheoli'r Gronfa yn adolygu cynnydd eich prosiect yn ystod y Cam Datblygu i weld sut hwyl yr ydych yn ei chael arni ac i'ch cynorthwyo drwy'r broses gynnig. Byddwn yn cytuno ar amserau priodol i drafod cynnydd â chi, ond gallwch ddisgwyl cael cyfarfod o leiaf unwaith y mis â ni.
Prif ddiben yr adolygiadau hyn fydd cadarnhau:
bod y prosiect yn datblygu'n dda a'i fod yn parhau i fynd i'r afael yn briodol ag amcanion y Gronfa
bod y costau a lefelau cyllid partneriaeth yn gyfredol a'u bod yn parhau i ddangos bod eich prosiect yn hyfyw
bod risgiau'r prosiect yn rhai y gellir eu rheoli
bod cynllun cyflawni prosiect clir ar waith i lywio camau i ddatblygu'r cynnig ymhellach.
Bydd yr adolygiadau hefyd yn rhoi cyfle i ystyried unrhyw newidiadau sylweddol a thynnu sylw at unrhyw feysydd lle mae angen gwneud gwaith pellach. Os ceir pryderon difrifol, mae'n bosibl y byddwn yn argymell eich bod yn rhoi'r gorau i'r gwaith o baratoi eich cynnig.
Dylech ddewis yn ofalus pryd i gyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig'. Peidiwch â rhuthro i'w gyflwyno cyn eich bod yn barod, a sicrhewch eich bod wedi ystyried effaith eich cynnig yn llawn a sut y byddwch yn ei reoli yn ystod y Cam Cyflawni a phan fydd wedi'i gwblhau.
5.3 Gwerthuso ac adrodd
Mae gwerthuso da'n eich helpu i ddeall eich effaith ac yn rhoi cyfle i eraill ddysgu o'ch profiad chi. Mae'r wybodaeth honno, yn ei thro, yn ein helpu ni i nodi'r gwahaniaeth y mae ein grantiau'n ei wneud.
Rydym yn argymell eich bod yn ymgorffori gwaith gwerthuso o ddechrau eich prosiect. Mae ein tystiolaeth yn dangos po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer y gwaith o'u gwerthuso, y gorau yw ansawdd y cynnyrch terfynol.
Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer costau gwerthuso ac adrodd yn eich 'Cynnig Datblygedig'.
[1] Fel un o amodau unrhyw ddyfarniad grant, bydd yn rhaid i chi ymrwymo i gael caniatâd cynllunio llawn ar gyfer eich prosiect (os yw hynny'n berthnasol) a chadarnhau y byddwch yn cydymffurfio'n llawn ag unrhyw amodau cynllunio a osodir.
6. Y dogfennau ategol sy'n ofynnol
Bydd angen i chi ddarparu rhai dogfennau ategol craidd gyda'ch 'Cynnig Datblygedig', fel y nodir isod. At hynny, mae'n bosibl y bydd angen Gwybodaeth Ategol bellach os yw'n berthnasol i'ch prosiect, fel y sonnir hefyd. Peidiwch â chyflwyno dogfennau nad ydynt yn ymddangos yn ein rhestr o ofynion, oherwydd ni fyddwn yn eu defnyddio i asesu eich cynnig.
6.1 Dogfennau ategol craidd
Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau gorfodol canlynol:
Dogfen eich busnes ynghylch llywodraethiant
Gwybodaeth am gyfrifon y busnes
Cynllun cyflawni prosiect (amserlen/siart Gantt)
Cofrestr risg y prosiect
Cynllun costau llawn sy'n nodi holl gostau cymwys y prosiect
Achos busnes ar gyfer eich prosiect, a ddylai gynnwys rhagolwg o lif arian
6.1.1 Dogfen ynghylch llywodraethiant
Rhaid i chi ddarparu copi o ddogfen eich busnes ynghylch llywodraethiant. Rhaid bod gennych o leiaf ddau berson ar eich Bwrdd neu'ch Pwyllgor Rheoli, nad ydynt yn perthyn i'w gilydd drwy waed neu briodas neu nad ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad. Dylai eich dogfen ynghylch llywodraethiant gynnwys y canlynol:
enw cyfreithiol a nodau eich busnes
datganiad sy'n atal eich busnes rhag dosbarthu incwm neu eiddo i'w aelodau yn ystod ei oes
datganiad sy'n cadarnhau, os caiff eich busnes ei ddirwyn i ben neu'i ddiddymu, sut y bydd asedau'r busnes yn cael eu gwaredu
y dyddiad y cafodd y ddogfen ei mabwysiadu, a llofnod eich cadeirydd neu berson awdurdodedig arall.
6.1.2 Cyfrifon eich busnes
Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu sydd wedi'u gwirio gan gyfrifydd ar gyfer y tair blynedd diwethaf a'ch cyfrifon rheoli ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Os yw cyfrifon eich busnes yn hŷn na 18 mis, neu os cafodd eich busnes ei sefydlu lai nag 14 mis yn ôl ac nad oes ganddo set o gyfrifon sydd wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf neu lythyr wedi'i lofnodi oddi wrth eich banc.
Rhaid i chi ddarparu amserlen/siart Gantt ar gyfer eich prosiect. Dylai gynnwys gwybodaeth am y gwaith o ddatblygu a chyflawni eich cynigion wrth i'r prosiect fynd drwy Gamau 0 i 6 RIBA gan gynnwys Cam 6. Mae'n bwysig bod yr amserlen/siart Gantt yn cynnwys amserlenni ar gyfer creu eich achos busnes ar gyfer y prosiect.
Dylech nodi cerrig milltir allweddol yr ydych yn disgwyl i'ch prosiect eu cyrraedd, a darparu trosolwg cynhwysfawr o sut yr ydych yn disgwyl i'ch prosiect esblygu gydag amser.
Rydym wedi creu templed Siart Gantt i chi ei ddefnyddio, ond byddem hefyd yn barod i dderbyn cynllun cyflawni prosiect mewn fformat amgen, cyhyd â'i fod yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol am y gweithgarwch arfaethedig.
6.1.4 Cofrestr risg y prosiect
Rhaid i chi gyflwyno cofrestr risg prosiect sydd wedi'i gwerthuso yn llawn. Dogfen yw hon, ar ffurf tabl fel rheol, sy'n rhestru'r holl risgiau a nodwyd gan fusnes, wedi'u blaenoriaethu yn nhrefn eu heffaith ac, felly, pwysigrwydd eu rheoli'n ofalus.
Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd y bydd angen i chi eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynglŷn â'r risgiau y gallai eich prosiect a'ch busnes eu hwynebu, fel eich bod mewn sefyllfa dderbyniol i reoli a chyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.
Rydym wedi creu templed Cofrestr Risg i chi ei ddefnyddio, ond byddem hefyd yn barod i dderbyn cofrestr risg mewn fformat amgen, cyhyd â'i bod yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol am risgiau o'r fath.
6.1.5 Cynllun costau prosiect manwl
Bydd costiadau eich prosiect yn esblygu ac yn dod yn gliriach po fwyaf y byddwch yn deall ac yn mynegi eich gofynion.
Mae'r ffeithlun yma'n dangos lefel gynyddol y manylion am gostau, a ddylai ddod i'r amlwg wrth i'ch cynigion symud drwy Gamau RIBA.
Erbyn y byddwch yn barod i gyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig', rhaid bod modd i'ch cynghorwyr ynghylch costau ddarparu 'cynllun costau prosiect manwl' ar gyfer ein hasesiad.
Byddwn yn gofyn am daenlen fanwl ynglŷn â gwariant y prosiect, sy'n cyfeirio at y penawdau cyllideb a ddefnyddiwyd yn eich cais ac sy'n nodi pob agwedd ar wahân yn glir.
At hynny, dylech ystyried chwyddiant a chostau digwyddiadau annisgwyl yn ofalus yn eich cynllun costau.
Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau cyfalaf yn debygol o barhau'n uchel hyd y rhagwelir. Dylech ystyried chwyddiant ar sail amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill megis costau deunyddiau, galwadau am lafur, a lleoliad.
Rydym wedi creu templed Arfarniad Ariannol a Chynnig Llif Arian y mae'n RHAID iddo gael ei gyflwyno gyda'ch cynnig. Gall y 'cynllun costau prosiect manwl' ategol fod mewn unrhyw fformat ond RHAID iddo gyfeirio at y penawdau cyllideb yn y Ffurflen Arfarniad Ariannol a nodi pob agwedd yn glir. RHAID i'ch 'cynllun costau prosiect manwl' gael ei baratoi gan Syrfëwr Meintiau cymwys.
Mae arweiniad penodol ar gael ynghylch y Costau Cyfalaf Cymwys y gellir eu cynnwys.
6.1.6 Cam 3 RIBA - Trosglwyddo risg ariannol
Dylai lefel y grant a geisir gan Gronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru gael ei nodi'n glir yn eich cynnig llawn. Rhaid bod lefel y grant yn ymwneud â'r costiadau y byddwch wedi'u sefydlu erbyn yr adeg honno. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich dyfarniad grant yn cyd-fynd â'r hyn y gwnaethoch ofyn amdano.
Mae yna risg ariannol i'w hystyried pan fydd dyfarniad grant wedi'i roi. Efallai y byddwch yn datblygu'r dyluniad technegol ymhellach, sy'n newid cwmpas y prosiect, neu efallai y bydd costau tendrau a ddychwelir yn uwch nag yr oeddech wedi'i ddisgwyl.
Ni fyddwch yn gallu troi'n ôl at y Gronfa i gael grant ychwanegol ar ben y dyfarniad cychwynnol os bydd costau eich prosiect yn cynyddu, felly bydd angen i chi reoli'r risg honno'n briodol.
6.1.7 Adennill costau'n llawn
Mae adennill costau'n llawn yn golygu sicrhau cyllid ar gyfer yr holl gostau sy'n ymwneud â rhedeg prosiect. Rydym wedi darparu rhywfaint o arweiniad ynghylch y Costau Cyfalaf Cymwys y gellir eu cynnwys, er mwyn i chi ei ystyried.
Beth bynnag, ni ddylai Treth ar Werth (TAW) gael ei chynnwys yng nghostau eich prosiect, a rhaid i chi dalu unrhyw rwymedigaeth o ran TAW oni bai eich bod yn gallu dangos yn glir i ni nad oes modd i chi adennill rhai costau TAW.
6.1.8 Rhagolwg o lif arian
Rhaid i chi ddarparu trosolwg cyflawn o lif arian eich busnes tra bydd y prosiect yn para. Dylai'r rhagolwg gynnwys cyfrif rhagolwg o incwm a gwariant, sy'n cynrychioli'r modd yr ydych yn gweithredu o ddydd i ddydd a'ch model ariannol; rhagolwg o lif arian, sy'n dangos y llif arian a ddisgwylir bob chwarter; a datganiadau o ragdybiaethau sy'n sail i'r rhagolygon.
Dylai eich cyfrifiadau gynnwys manylion y rhagdybiaethau a wnaed. Rhagdybiaeth yw unrhyw beth yr ydych yn dibynnu arno i lunio rhagolygon, er enghraifft y twf a ragwelwyd mewn incwm yn ystod y flwyddyn flaenorol. Dylech sicrhau eich bod hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gronfeydd wrth gefn y gallai'r prosiect effeithio arnynt wrth iddo fynd yn ei flaen.
Os oes gennych is-gwmni sy'n masnachu, dylech ddweud wrthym a gofyn am arweiniad pellach ynghylch unrhyw wybodaeth ychwanegol y gallai fod angen i chi ei chynnwys yn eich rhagolwg.
Rydym wedi creu templed Arfarniad Ariannol a Chynnig Llif Arian y mae'n RHAID ei ddefnyddio at y diben hwn.
6.1.9 Achos busnes y prosiect
Ar gyfer pob prosiect a gefnogir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru, gan gynnwys y Gronfa hon, mae'n ofyniad gorfodol cyflwyno achos busnes datblygedig sy'n cefnogi'r angen am eich prosiect, pa fanteision y bydd y prosiect yn eu cynnig i'ch busnes a'r rhanbarth ehangach, sut y byddwch yn comisiynu'r gwaith, sut y byddwch yn talu am gostau'r prosiect a sut y byddwch yn goruchwylio ac yn rheoli'r gwaith o'i gyflawni.
Rydym wedi creu templed Achos Busnes i chi ei ddefnyddio, sy'n cynnwys rhywfaint o arweiniad ategol ynghylch ei gwblhau'n llwyddiannus. At hynny, bydd Tîm Rheoli'r Gronfa yn gallu eich cynorthwyo drwy'r broses ond bydd yn rhaid i chi barhau i fod yn hollol atebol am gynnwys yr achos busnes.
6.2 Gwybodaeth ategol arall
6.2.1 Lluniau o'r prosiect (os yn berthnasol)
Os yn berthnasol, dylech ddarparu hyd at chwe llun sy'n helpu i ddarlunio eich prosiect.
Dylech sicrhau eich bod wedi cael pob caniatâd gofynnol i rannu'r lluniau hynny â ni, megis caniatâd gan berchnogion hawlfraint a ffurflenni caniatâd gan gyfranogwyr, oherwydd mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r lluniau i sôn wrth bobl am eich prosiect, gan gynnwys y sawl a fydd yn gwneud penderfyniadau ar ein rhan.
6.2.2 Tystiolaeth o gefnogaeth (os yn berthnasol)
Dylech ddarparu hyd at chwe darn o dystiolaeth o gefnogaeth, er enghraifft llythyrau, negeseuon ebost neu ffurflenni adborth, gan fusnesau eraill neu unigolion sy'n cefnogi eich prosiect neu sy'n cymryd rhan ynddo.
Mae darparu tystiolaeth o gefnogaeth yn ffordd effeithiol o ddangos i ni eich bod wedi siarad â phobl eraill, bod ganddynt ddiddordeb yn eich prosiect a'u bod wedi ymrwymo iddo.
6.2.3 Cytundebau partneriaeth (yn orfodol os yn berthnasol)
Os ydych yn bwriadu gweithio gyda busnes arall i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, rhaid i chi ffurfioli eich perthynas drwy gytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect, ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ynghylch y ffordd orau o ysgrifennu cytundeb.
6.2.4 Dogfennau ynghylch perchnogaeth (yn orfodol os yn berthnasol)
Os ydych yn cynllunio unrhyw waith cyfalaf neu'n bwriadu prynu adeiladau neu dir, bydd angen i chi ddarparu copïau o unrhyw ddogfennau sy'n berthnasol i'ch perchnogaeth. Caiff y gofynion i'r perwyl hwnnw eu hegluro'n fanylach yn yr adran 'Perchnogaeth' a'r adran 'Gwarant ar gyfer y grant').
Os yw eich prosiect yn cynnwys caffael safle newydd, rhaid bod y safle wedi'i ddyrannu yn barod ar gyfer Defnydd at ddiben Cyflogaeth (neu ddefnydd sefydlog a pherthnasol arall) o safbwynt Cynllun Datblygu Lleol.
6.2.5 Cynllun rheoli a chynnal a chadw (yn orfodol os yn berthnasol)
Os chi yw perchennog (neu ddarpar berchennog) yr eiddo, byddwn yn gofyn i chi baratoi cynllun rheoli a chynnal a chadw yn rhan o'ch achos busnes.
Bydd y cynllun hwnnw'n dweud wrthym sut y byddwch yn gofalu am y cyfleusterau newydd pan fydd eich prosiect wedi'i gwblhau, gan gynnwys sut yr ydych yn disgwyl i fanteision eich prosiect gael eu cynnal yn y dyfodol. Byddwn yn disgwyl i chi sicrhau bod y gwaith a ariannwyd gennym ni'n cael ei gadw mewn cyflwr da. Byddwn yn disgwyl i'ch busnes fabwysiadu'r cynllun a darparu'r adnoddau ariannol sy'n ofynnol i'w roi ar waith.
7.Gofynion eraill o ran cyllid
7.1 Adrodd ynghylch perfformiad
Rydym yn awyddus i glywed am sut y mae eich prosiect yn dod yn ei flaen a beth yr ydych wedi'i gyflawni â'r cyllid. Yn rhan o'ch gwaith adrodd ffurfiol ynghylch eich grant, bydd yn rhaid i chi roi diweddariadau i ni ynghylch eich prosiect yn ystod oes y prosiect. Fel rheol, byddwn yn disgwyl diweddariad ynghylch y prosiect bob mis a bob tro y byddwch yn gofyn am daliad.
Byddwn yn cyfeirio at y cerrig milltir allweddol a nodwyd yn eich cynllun cyflawni prosiect, ac yn cytuno ar rai meini prawf perfformiad â chi er mwyn helpu i sicrhau bod eich prosiect yn parhau i fod ar y trywydd iawn. Mae'n bosibl y byddwn yn cytuno ar rai mesurau unioni â chi os byddwch yn ei chael yn anodd cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus. Os na fyddwch yn gallu cwblhau'r prosiect, bydd eich grant yn cael ei adfachu yn unol â thelerau'r grant.
7.2 Perchnogaeth
Rydym yn disgwyl i chi fod yn berchen ar unrhyw eiddo (tir, adeiladau, ac ati) y byddwch yn gwario'r grant arno neu rydym yn disgwyl bod gennych fuddiant cyfreithiol sylweddol ynddo. Rhaid eich bod yn berchen ar y rhydd-ddaliad neu fod gennych brydles y mae o leiaf 15 mlynedd ohoni'n weddill ar ôl dyddiad cwblhau eich prosiect. Rhaid bod pob prydles yn bodloni'r gofynion canlynol:
nid ydym yn derbyn prydlesi sydd â chymalau terfynu (mae'r rhain yn rhoi i un neu fwy o bartïon y brydles yr hawl i ddod â'r brydles i ben mewn rhai amgylchiadau)
nid ydym yn derbyn prydlesi sydd â chymalau fforffedu adeg ansolfedd (mae'r rhain yn rhoi hawl i'r landlord ddod â'r brydles i ben os yw'r tenant yn mynd yn ansolfent)
mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwerthu eich prydles, is-osod y cyfan neu ran ohoni a'i morgeisio ond, os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid yn gyntaf i chi gael caniatâd gennym i wneud unrhyw un o'r pethau hynny.
7.3 Yswirio gwaith ac eiddo
Rhaid i chi, gyda'ch contractwyr, drefnu yswiriant priodol ar gyfer unrhyw eiddo, gwaith, deunyddiau a nwyddau sy'n rhan o'ch prosiect. Rhaid bod yr yswiriant ar gyfer pob un o'r rhain yn ddigon i dalu cost lawn eu hadfer yn dilyn colled neu ddifrod, gan gynnwys chwyddiant a ffïoedd proffesiynol.
Os bydd tân, mellten, storm neu ddifrod oherwydd llifogydd yn effeithio ar eich prosiect, i'r graddau na allwch gwblhau'r prosiect fel y nodwyd yn eich cais, gallwn ystyried hawlio ein grant yn ôl.
7.4 Caffael a gwerth cymdeithasol
Rhaid i chi ddilyn ein Canllawiau Caffael. Gofynnir i chi egluro'r agweddau ehangach ar eich cynnig, sy'n ymwneud â gwerth cymdeithasol, gan gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys agweddau sy'n gwarchod diwylliant, treftadaeth, a'r iaith Gymraeg lle bo'n berthnasol.
7.5 Y Gymraeg
Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd ar eich gwaith. Dylech ddweud wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn hybu'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.
Rhaid i chi gydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a glynu wrth yr egwyddorion a nodir yn Safonau'r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion. Mae copi llawn o'r Safonau hynny ar gael ar wefan y Cyngor, i'r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni prosiect. Pan gaiff ceisiadau eu hasesu, byddwn hefyd yn cyfeirio at Bolisi'r Gymraeg ar gyfer Dyfarnu Grantiau Cyngor Sir Ceredigion er mwyn sicrhau bod cynigion yn cydymffurfio ag ef.
7.6 Cynllun rheoli cymorthdaliadau SC11278
Pan fydd unrhyw grant yn dod o arian cyhoeddus, bydd yn rhwym wrth ofynion Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r ddeddfwriaeth honno. Cymhorthdal yw achos lle mae awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus, sy'n roi mantais economaidd i'r sawl sy'n cael y cymorth, os gall y sawl dan sylw gymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd.
Aseswyd bod y Gronfa yn Gynllun Cymorthdaliadau newydd, ac yn unol â'r Ddeddf mae wedi cael ei chofrestru felly. Rhif y Cynllun Cofrestredig yw SC11278. O ganlyniad, nid oes angen i brosiectau unigol sy'n cael arian grant gan y Gronfa gyflwyno asesiadau rheoli cymorthdaliadau, ond rhai i bob dyfarniad gael ei gofnodi ar 'gronfa ddata tryloywder'.
Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a yw eich grant yn cydymffurfio â pharamedrau'r Cynllun Cofrestredig. Rydym yn cadw'r hawl i gyflwyno gofynion pellach a gofyn am wybodaeth bellach i'r perwyl hwn, a byddwn yn disgwyl i chi roi i ni unrhyw gymorth y gallai fod arnom ei angen i gwblhau ein hasesiad.
7.7 Gwarant ar gyfer y grant
Os yw unrhyw ddyfarniad grant yn werth dros £250,000, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am arwystl ar yr eiddo a ariennir gan y grant.
Bydd angen i chi anfon manylion cyswllt eich cyfreithiwr atom cyn gynted ag sy'n bosibl os dyfernir grant i chi. Bydd angen i'ch cyfreithiwr ddarparu copïau o'r teitl swyddogol gan y Gofrestrfa Tir (ynghyd â chynllun y teitl a gwybodaeth angenrheidiol arall) er mwyn ein galluogi ni i ddrafftio dogfennau'r arwystl. Bydd hynny'n cynnwys ymrwymiad gan eich cyfreithiwr i weithredu ar ein rhan i gyflawni'r holl chwiliadau perthnasol cyn cwblhau, ac i gofrestru'r arwystl yn y Gofrestrfa Tir ac yn Nhŷ'r Cwmnïau (os yn briodol).
Chi fydd yn gyfrifol am dalu ffïoedd a chostau eich cyfreithiwr, ond cewch gynnwys cost cyngor cyfreithiol yn rhan o gostau'r prosiect yn eich cais.
7.8 Embargos a sancsiynau gan y llywodraeth
Rhaid nad yw ein grantiau'n cael eu defnyddio i ariannu busnesau sy'n cefnogi eithafiaeth neu weithgarwch troseddol a/neu sy'n destun embargos neu sancsiynau gan y llywodraeth. Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a'r holl reoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect a chyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun yng nghyswllt unrhyw arian, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn destun embargos a sancsiynau gan y llywodraeth. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu taliadau grant yn ôl os byddwn o'r farn bod arian cyhoeddus mewn perygl.
7.9 Hyrwyddo a chydnabod cyllid
Mae cydnabod unrhyw grant gan Gronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru yn ystyriaeth bwysig i'ch prosiect. Dyma eich cyfle i ddangos sut y mae cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r economi leol.
Bydd cynllunio gweithgarwch hyrwyddo'n gynnar yn eich helpu i gyflawni ein gofynion a chydnabod y cymorth hwn mewn ffyrdd sy'n greadigol ac sy'n gymesur â maint y grant.
Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer costau cyhoeddusrwydd a gwaith hyrwyddo yn eich cynigion.
Defnyddiwch yr Arweiniad ynghylch Cyhoeddusrwydd a luniwyd gennym i'ch helpu i gynllunio eich gweithgareddau hyrwyddo.
8.Cael dyfarniad grant
8.1 Asesu eich 'Cynnig Datblygedig'
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig', byddwn yn gwirio bod popeth yn ei le a byddwn yn cysylltu i roi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad. Ni fyddwn yn gallu dechrau asesu'r cynnig nes y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth a'r holl ddogfennau ategol perthnasol. Mae'n annhebygol y byddwch yn clywed gennym eto nes y byddwn yn eich hysbysu am ein penderfyniad.
Cyn cynnal asesiad llawn, byddwn yn cynnal rhai gwiriadau cychwynnol o'r wybodaeth y byddwch wedi'i rhoi i ni (mae'n bosibl y byddwn yn gwirio rhai materion eraill bryd hynny hefyd, megis eich hanes gyda ni, neu'n cynnal gwiriadau ariannol a gwiriadau'n ymwneud â thwyll ac yn gwirio mai chi ydych chi). Cyhyd â bod canfyddiadau'r gwiriadau hynny'n dderbyniol, byddwn yn parhau i asesu eich cynnig llawn.
Pan fyddwn yn gwneud hynny , byddwn yn ei ystyried ar sail ystod o fesurau perfformiad a elwir gennym yn Ffactorau Llwyddiant Allweddol. Mae angen ein bod yn gallu blaenoriaethu'r mannau lle bydd ein buddsoddiad yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Os na fydd eich cais yn bodloni ein meini prawf manwl, mae'n bosibl y bydd yn cael ei wrthod. Bydd perfformio'n dda ar sail y meini prawf hyn hefyd yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd yn y canolbarth.
8.2 Ystyried risg
Wrth asesu eich cynnig, byddwn yn llunio barn yn bwyllog am y risgiau posibl i'ch prosiect ac am risgiau cyfredol y busnes - a byddwn yn ceisio gweld a ydych wedi nodi'r rhain yn ddigonol ac wedi dweud wrthym sut y byddwch yn eu lliniaru.
8.3 Penderfyniadau
Bydd Panel Gwerthuso yn cyfarfod i drafod yr holl gynigion wrth iddynt ein cyrraedd. Fodd bynnag, bydd angen rhywfaint o amser arnom i'w gwerthuso'n dechnegol cyn hynny. Yna, bydd argymhelliad y Panel yn cael ei gyfeirio at ein corff llywodraethu a fydd yn gwneud penderfyniad terfynol. Ein nod yw cwblhau prosesau arfarnu/cymeradwyo cynigion cyn pen dau fis ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.
8.4 Dyfarniadau grant dros dro a therfynol
Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi Dyfarniad Grant Dros Dro i chi. Bydd yn rhaid i chi aros am ganiatâd gennym cyn dechrau ar eich prosiect. At hynny, bydd angen i chi ymrwymo i'n Telerau Grant.
Pan fydd Cam 4 RIBA wedi'i gwblhau, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn dal mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r prosiect a chyflawni'r allbynnau a'r canlyniadau a nodwyd. Pan fyddwch wedi cadarnhau hynny wrthym, byddwch yn cael Dyfarniad Grant Terfynol.
Bydd gennych hyd at ddwy flynedd i gwblhau'r Cam Cyflawni (gan gynnwys Cam 4 RIBA) oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar gyfnod hirach ar gyfer y prosiect.
8.5 Sut y byddwn yn talu eich hawliadau am grant
Yn achos pob grant, byddwn yn gwneud taliadau'n ôl-weithredol. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i chi fynd i gostau ymlaen llaw a darparu tystiolaeth i ni eich bod wedi mynd i'r costau hynny (ar ffurf cyfriflenni banc fel rheol), h.y. tystiolaeth o 'gostau sydd wedi'u talu', a gaiff eu hawlio bob chwarter. Cytunir ar Gylch Hawlio Grant â chi at y diben hwnnw.
Ar ddiwedd pob cyfnod hawlio, bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Hawlio Grant. Bydd y ffurflen honno'n cael ei hadolygu gan Dîm Rheoli'r Gronfa ac eraill i wneud yn siŵr bod unrhyw hawliadau'n ddilys, eu bod wedi'u hategu gan dystiolaeth briodol a chadarn, eu bod yn dangos gwerth am arian, a'u bod yn dangos bod y canlyniadau gofynnol o ran cynnydd yn cael eu cyflawni'n unol â thelerau'r dyfarniad grant.
Pan fydd y gwiriadau hyn wedi'u cwblhau, bydd yr hawliad yn cael ei awdurdodi er mwyn i'r swm priodol gael ei dalu. Byddwn yn talu eich grant ar sail canran o gostau eich prosiect. Rydym yn galw'r ganran honno'n gyfradd ymyrryd (neu'n ganran talu). Er enghraifft, os £800,000 yw cyfanswm costau eich prosiect ac os £440,000 yw eich cyfraniad chi ar ffurf cyllid ar y cyd, £360,000 fydd eich grant a 45% fydd eich cyfradd/canran.
Byddwn yn ceisio talu hawliad llwyddiannus yn ystod y mis a fydd yn dilyn y cyfnod hawlio, e.e. ar gyfer cyfnod hawlio Ionawr - Mawrth, bydd y Cyngor yn ceisio talu'r hawliad ym mis Ebrill.
Byddwn hefyd yn cadw 10% olaf eich grant nes y byddwn yn fodlon bod y prosiect wedi'i gwblhau, bod y grant wedi'i wario yn briodol, a'ch bod wedi anfon eich adroddiad gwerthuso terfynol atom.
8.6 Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn aflwyddiannus
Mae'r broses asesu yn broses gystadleuol, ac ni allwn ariannu'r holl geisiadau da a gawn. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.
Gallwch fyfyrio ynghylch ein rhesymau a cheisio gwella eich cais, ond bydd yn rhaid i chi aros tan yr Alwad Agored nesaf cyn ailgyflwyno unrhyw beth.