2. Dogfennau Canllaw
2.6 Protocol cyhoeddusrwydd ar gyfer dyfarniadau grant
Diben
Rydym yn gofyn i bawb sy'n derbyn grant gydnabod yn gyhoeddus y cymorth ariannol a gafwyd. Mae hynny'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r modd y mae buddsoddi cyhoeddus trwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau ac yn adeiladu ein heconomi ranbarthol.
Os ydych yn cynllunio unrhyw gyhoeddusrwydd (megis datganiadau i'r wasg, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu gyhoeddiadau), anfonwch neges ebost sydyn atom ymlaen llaw yn tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru er mwyn i ni allu helpu i sicrhau bod popeth yn cyd-fynd â dull cyfathrebu'r Fargen Twf.
Beth y mae angen i chi ei wneud
- Deunyddiau cyffredinol (e.e. gwefan, taflenni, arwyddion)
o Cynnwys logos Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a ddarperir adeg dyfarnu'r grant), a'r datganiad hwn (yn Gymraeg a Saesneg):
"Caiff y prosiect hwn ei [ariannu/ei ariannu'n rhannol] drwy Gronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru, a weithredir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhan o Tyfu Canolbarth Cymru."
"This project is [funded/part-funded] through the Mid Wales Commercial Property Investment Fund, delivered by the Mid Wales Growth Deal as part of Growing Mid Wales."
- Ar-lein/Cyfryngau cymdeithasol
o Os ydych yn cyhoeddi negeseuon am y prosiect:
o Tagiwch @GrowingMidWales ar LinkedIn neu X
o Defnyddiwch yr hashnodau: #BargenTwfCanolbarthCymru #MidWalesGrowthDeal
- Placiau ac arwyddion
o Ar gyfer prosiectau seilwaith, dylid gosod plac parhaol cyn pen 3 mis ar ôl cwblhau'r prosiect (nad yw'n llai na 250mm x 200mm o faint), sy'n cynnwys y logos a'r datganiad ynghylch ariannu.
- Os byddwch yn creu datganiad i'r wasg
o Cysylltwch â ni'n gyntaf. Mae'n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ebost: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
- Digwyddiadau (os yn cynnwys y cyhoedd)
o Os byddwch yn cynnal digwyddiad sy'n gysylltiedig â'r prosiect, defnyddiwch y logos a'r datganiad ar wahoddiadau a baneri, a rhowch wybod i ni amdano.
- Fideo neu gynnwys gweledol
o Ychwanegwch y logos am 3 eiliad ar y diwedd a cheisiwch gynnwys isdeitlau dwyieithog os yw hynny'n bosibl.
- Canllawiau brandio:
o Defnyddiwch logos swyddogol Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a ddarperir adeg dyfarnu'r grant).
o O ran y logos, cadwch y cyfan yn glir, yn gytbwys a heb ei anffurfio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
o Peidiwch â thocio nac ymestyn y logos.
o Gosodwch y logos yn glir ar unrhyw ddeunydd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y cyhoedd.
- Iaith a hygyrchedd
o Rhaid i bob cyhoeddusrwydd fod yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Gellir cynnwys costau cyfieithu yn eich cyllideb ar gyfer y grant.
- Angen cymorth?
o Rydym yma i helpu i wneud y cyfan yn rhwydd. Cysylltwch â ni yn tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru gydag unrhyw ymholiadau neu os ydych yn ansicr ynghylch eich cynlluniau.
