Toggle menu

2. Dogfennau Canllaw

2.1 Ffactorau Llwyddiant Allweddol ar gyfer Asesu Prosiectau Arfaethedig i'r Portffolio

Mae Ffactorau Llwyddiant Allweddol yn adnoddau hanfodol ar gyfer gwerthuso, blaenoriaethu a rheoli cynigion buddsoddi ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Bydd y ffactorau'n cefnogi penderfyniadau strategol a chyson sy'n cyd-fynd ag amcanion rhanbarthol:

  • Byddant yn sicrhau bod cynigion yn hybu'n uniongyrchol nodau'r Fargen Twf — sy'n cynnwys newid trawsnewidiol, twf cynhwysol a datblygiad sectorau.
  • Byddant yn darparu fframwaith wedi'i safoni ar gyfer asesu prosiectau amrywiol, a fydd yn galluogi penderfyniadau teg a thryloyw ar draws rhanddeiliaid.

A. Gwerth strategol

A1. Aliniad strategol â Bargen Twf Canolbarth Cymru

Y graddau y mae'r cynnig yn cefnogi amcanion strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru:

  • Yn cyfrannu'n glir i nodau strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Yn cyd-fynd â sectorau sy'n flaenoriaeth (e.e. bwyd-amaeth, ynni, digidol).
  • Yn sbarduno twf cynhwysol a chydnerthedd rhanbarthol.

A2. Effaith drawsnewidiol ar y rhanbarth

Y potensial i'r prosiect gyflawni newid sylweddol a pharhaol:

  • Yn dangos potensial i sicrhau trawsnewid economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol.
  • Yn mynd y tu hwnt i welliannau cynyddrannol er mwyn cyflawni gwerth rhanbarthol hirdymor.

A3. Gwerth am arian

Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd buddsoddi arian cyhoeddus:

  • Achos economaidd cryf, ac yn rhagweld y bydd swyddi'n cael eu creu ac y bydd Gwerth Ychwanegol Gros yn cynyddu.
  • Yn dangos defnydd effeithlon o arian cyhoeddus.
  • Potensial i ysgogi cyllid ychwanegol ac effaith economaidd ehangach.

B. Parodrwydd

B4. Fforddiadwyedd

Dichonoldeb ariannol y cynnig a'i barodrwydd o ran cyllid:

  • Caiff y costau cyfalaf eu deall ac maent yn gymesur.
  • Mae lefel ymyriad Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi'i diffinio.
  • Mae cyllid cyfatebol wedi'i sicrhau neu mae cryn dipyn o'r broses o'i sicrhau wedi'i chyflawni, a cheir tystiolaeth o ysgogi arian o'r sector preifat.
  • Mae cyllid refeniw ar gyfer y camau datblygu a chyflawni wedi'i gadarnhau neu wedi'i gynllunio.

B5. Cymhlethdod

Mae cymhlethdod y gwaith cyflawni wedi'i ystyried ynghyd â'r risgiau cysylltiedig:

  • Mae gofynion cynllunio a dibyniaethau allanol wedi'u nodi a gellir ymdopi â nhw.
  • Caiff amryw gamau'r prosiect eu deall (dilyniannol, modwlar neu addasol).
  • Mae cymhlethdod y gwaith cyflawni wedi'i gategoreiddio er mwyn llywio'r gwaith o adnabod risgiau a chynllunio adnoddau.

B6. Amseroldeb

Parodrwydd i gael ei roi ar waith ac i gyflawni o fewn cyfnod penodol:

  • Gellir rhoi'r prosiect ar waith cyn pen 6 mis.
  • Mae trefniadau llywodraethiant ac adnoddau yn eu lle neu wedi'u cynllunio yn glir.
  • Mae'r amserlen ar gyfer cwblhau'r Model Busnes 5 Achos wedi'i diffinio ac mae modd glynu wrthi.
  • Mae'r cerrig milltir ar gyfer cyflawni'n realistig; gwarentir y bydd modd cwblhau'r prosiect cyn 2032.

B7. Rheoli

Cryfder trefniadau rheoli'r prosiect:

  • Mae gan y prosiect adnoddau priodol ynghyd â strwythurau effeithiol ar gyfer llywodraethiant.
  • Ceir tystiolaeth o egwyddorion cadarn ar gyfer cynllunio prosiect.
  • Ceir dull cadarn a rhagweithiol o reoli risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau.
  • Deellir y fethodoleg ar gyfer tracio cynnydd, adrodd, a gwerthuso effaith.

 

2.2 Llenwi Ffurflen yr Asesiad Strategol

Yn ôl canllawiau Trysorlys Ei Fawrhydi Better Business Case, diben yr Asesiad Strategol yw sefydlu'r cyd-destun strategol ar gyfer prosiect a dangos sut y mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol ehangach.

Bydd prosiect yn cael y dechrau mwyaf effeithiol pan fydd wedi'i wreiddio mewn strategaeth fusnes glir sy'n amlinellu:

  • Ble'r ydych chi arni ar hyn o bryd.
  • Ble'r ydych am fod.
  • Sut y byddwch yn cyrraedd yno.
  • Sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur.

Mae cwblhau Asesiad Strategol yn rhoi cyfle cynnar i'r sefydliad, tîm Bargen Twf Canolbarth Cymru a rhanddeiliaid allweddol:

  • Ddylanwadu ar gyfeiriad, cwmpas a chynnwys y prosiect.
  • Cadarnhau addasrwydd strategol y prosiect o fewn Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Sicrhau bod strwythur y prosiect yn dda, bod ganddo adnoddau digonol, a'i fod yn cael ei lywodraethu mewn modd a fydd yn sicrhau ei fod yn cyflawni'n llwyddiannus.

Dylai eich Asesiad Strategol:

  • Ddangos sut y mae'r prosiect yn hybu polisïau a thargedau cenedlaethol, rhanbarthol, lleol neu sefydliadol sy'n cyd-fynd â Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Dangos sut y mae'r prosiect yn cyd-fynd â strategaeth fusnes a chynlluniau cyflawni eich sefydliad.
  • Darparu dealltwriaeth glir o'r llwybr allweddol ar gyfer cyflawni, sy'n cynnwys:
    • Y canlyniadau a'r allbynnau a ddisgwylir
    • Y cerrig milltir allweddol a'r amserlenni
    • Y buddion a ddisgwylir a'r risgiau cysylltiedig
  • Cadarnhau bod y prosiect:
    • Yn cael ei drefnu a'i ariannu yn briodol
    • Yn cael ei gefnogi gan y llywodraethiant, y safonau, yr adnoddau a'r galluoedd angenrheidiol
  • Cyfleu'n glir yr anghenion o ran busnes a'r cyfleoedd o ran gwasanaeth y mae'r prosiect yn bwriadu mynd i'r afael â nhw.

Bwriedir i Ffurflen yr Asesiad Strategol eich tywys drwy'r broses hon. Er bod y ffurflen yn hunanesboniadol i raddau helaeth, bydd y canllawiau ychwanegol canlynol yn eich cynorthwyo i'w llenwi yn effeithiol.

Dylech gwblhau'r meysydd canlynol yn Ffurflen yr Asesiad Strategol. Bydd y manylion hyn yn helpu i asesu addasrwydd strategol eich prosiect, ei barodrwydd a'i strwythur ariannol.

Manylion y prosiect

  • Teitl y prosiect: Enw clir a chryno ar gyfer eich prosiect.
  • Sefydliad arweiniol: Y sefydliad sy'n gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r prosiect.
  • Uwch-berchennog Cyfrifol: Y swyddog uwch yn y sefydliad arweiniol, sy'n atebol am gyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.
  • Rheolwr y prosiect: Y person sy'n gyfrifol am ddatblygu a chydlynu'r prosiect o ddydd i ddydd.
  • Capasiti allanol y prosiect: Nodwch a oes unrhyw gymorth proffesiynol allanol yn cael ei ddefnyddio i reoli'r prosiect.
  • Rhanddeiliaid allweddol: Rhestrwch unrhyw sefydliadau eraill sy'n ymwneud yn weithredol â datblygu neu gefnogi'r prosiect.

Trosolwg ariannol

  • Cyfanswm y costau cyfalaf (£): Y costau cyfalaf llawn sy'n ofynnol i gyflawni'r prosiect (rhwng £500,000 a £25m).
  • Cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru (£): Swm y cyllid y gofynnir amdano gan Fargen Twf Canolbarth Cymru (rhaid nad yw'n fwy na 40% o gyfanswm y costau cyfalaf).
  • Gofyniad o ran cyllid cyfatebol (£): Gweddill y cyllid cyfalaf sy'n ofynnol (h.y. cyfanswm y costau cyfalaf namyn cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru).
  • Buddsoddiad posibl gan y sector preifat (£): Unrhyw gyfraniadau gan y sector preifat, a ddisgwylir neu sydd wedi'u cadarnhau, tuag at y cyllid cyfatebol.
  • Costau refeniw datblygu (£): Amcangyfrif o'r costau refeniw ar gyfer datblygu'r prosiect. Nodwch: Ni all Bargen Twf Canolbarth Cymru ariannu costau refeniw datblygu.
  • Cymhareb fudd:cost ddangosol: Os yw'n hysbys, darparwch y gymhareb fudd:cost—mesur sy'n cymharu buddion disgwyliedig y prosiect â'i gostau.

Os nad yw'n hysbys ar hyn o bryd, gadewch y maes hwn yn wag. Dylech osgoi rhoi amcangyfrifon tybiannol.

Y cynnig

Yn yr adran hon, dylech roi disgrifiad clir a chryno o gynnig eich prosiect. Dylai eich ateb ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol:

  • Diben y prosiect

Esboniwch beth y mae eich prosiect yn ceisio ei gyflawni. Disgrifiwch y syniad craidd, y broblem neu'r cyfle y mae'n mynd i'r afael ag ef/â hi, a'r rhesymeg dros ei ddatblygu.

  • Tystiolaeth o alw

Darparwch dystiolaeth ategol sy'n dangos yr angen neu'r galw am eich prosiect. Gallai gynnwys:

o   Ymchwil i'r farchnad neu waith ymgysylltu â rhanddeiliaid

o   Aliniad â pholisi neu strategaeth

o   Cyfleoedd economaidd neu fylchau o ran gwasanaeth a nodwyd

  • Effaith a ddisgwylir

Amlinellwch ganlyniadau a buddion disgwyliedig y prosiect. Ystyriwch:

o   Effaith economaidd (e.e. creu swyddi, cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros, ysgogi buddsoddiad)

o   Buddion cymdeithasol neu amgylcheddol

o   Cyfraniad i gydnerthedd rhanbarthol neu arloesi

  • Addasrwydd strategol

Esboniwch sut y mae'r prosiect yn cyd-fynd â:

o   Blaenoriaethau Tyfu Canolbarth Cymru

o   Amcanion strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru, megis:

  • Sbarduno arloesi a chynhyrchiant
  • Hybu datgarboneiddio ac uchelgeisiau o ran sero net
  • Gwella sgiliau a chyflogaeth
  • Gwella cysylltedd
  • Cryfhau'r economi sylfaenol.

Bydd ateb cryf yn dangos yn glir sut y mae'r prosiect yn cyfrannu i nodau rhanbarthol ac yn ategu mentrau eraill ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Yr hunanasesiad

Yn rhan o Ffurflen yr Asesiad Strategol, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau hunanasesiad gan ddefnyddio graddfa sgorio o 1 i 5, gyda chymorth Nodiadau Esboniadol Cadarn.

  • Caiff canllawiau ynghylch beth yw sgôr isel (1) neu uchel (5) eu darparu ar y ffurflen.
  • Rhaid i bob Nodyn Esboniadol Cadarn gynnwys 150 neu lai o eiriau, a dylent gyfiawnhau'n glir y sgôr a roddwyd.

Diben yr hunanasesiad

Mae'r hunanasesiad yn adnodd allweddol i werthuso pa mor dda y mae eich prosiect yn cyd-fynd â Ffactorau Llwyddiant Allweddol Bargen Twf Canolbarth Cymru. Bydd y ffactorau hynny'n helpu i sicrhau:

  • Bod cynigion yn hybu nodau'r Fargen Twf yn uniongyrchol — sy'n cynnwys newid trawsnewidiol, twf cynhwysol a datblygiad sectorau
  • Bod fframwaith tryloyw wedi'i safoni yn cael ei ddefnyddio i asesu amryw brosiectau ar draws pob rhanddeiliad.

Mae'r Ffactorau Llwyddiant Allweddol yn ategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn Ffurflen yr Asesiad Strategol, ac maent wedi'u grwpio i greu dau faes allweddol:

  • Tabl A: Gwerth strategol - mae'n asesu aliniad â blaenoriaethau rhanbarthol, addasrwydd o ran polisi, ac effaith bosibl
  • Tabl B: Parodrwydd - mae'n gwerthuso parodrwydd i gyflawni, sy'n cynnwys gwaith cynllunio, llywodraethiant, a chapasiti o ran adnoddau.

Bydd cwblhau'r adran hon yn drylwyr yn cryfhau eich cais ac yn helpu tîm Tyfu Canolbarth Cymru i asesu addasrwydd eich prosiect o fewn y Portffolio ehangach.

Matrics Crynhoi'r Asesiad Strategol

Pan fyddwch wedi llenwi Tabl A (Gwerth strategol) a Thabl B (Parodrwydd), rhaid i chi grynhoi eich canlyniadau gan ddefnyddio Matrics Crynhoi'r Asesiad Strategol.

Mae'r matrics hwn yn darparu darlun gweledol o sefyllfa gyffredinol eich prosiect, ac yn helpu i lywio blaenoriaethau a phenderfyniadau.

Crynodeb o barodrwydd: Bydd angen i chi roi barn gyffredinol ar gyfer Tabl B (Parodrwydd), ar sail y pedair agwedd allweddol a asesir:

  • Fforddiadwyedd.
  • Cymhlethdod.
  • Amseroldeb.
  • Rheoli.

Caiff disgrifyddion barn eu darparu yn y ffurflen i lywio eich asesiad.

Dylech blotio eich prosiect ar y matrics gan ddefnyddio'r canlyniadau cyfun canlynol:

  • Gwerth strategol (o Dabl A).
  • Parodrwydd (wedi'i grynhoi o Dabl B).

Bydd hynny'n helpu tîm Tyfu Canolbarth Cymru i asesu cryfder a pharodrwydd cymharol eich cynnig o fewn y Portffolio ehangach.

 

2.3 Strategaethau ategol Bargen Twf Canolbarth Cymru

I sicrhau cysondeb a safonau uchel ar draws Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, cytunwyd ar y strategaethau canlynol ar gyfer rheoli prosiectau. Caiff sefydliadau arweiniol eu hannog yn daer i fabwysiadu'r dulliau gweithredu hyn wrth ddatblygu a chyflawni eu prosiectau. Bwriad y strategaethau yw:

  • Hybu cysondeb wrth gyflawni ac adrodd.
  • Cryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.
  • Hybu camau effeithiol i reoli risg a gwireddu buddion.
  • Cyd-fynd â disgwyliadau Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a phartneriaid mewn llywodraethau.

Dylai sefydliadau arweiniol ystyried y strategaethau hyn wrth sefydlu eu trefniadau mewnol ar gyfer rheoli prosiectau:

  • Llywodraethiant ac adrodd
  • Rheolaeth ariannol
  • Rheoli risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau
  • Rheoli buddion
  • Caffael
  • Rheoli newid
  • Sicrwydd.

2.4 Y Model Busnes 5-Achos

Mae'r Model Busnes 5 Achos, a elwir hefyd yn 'Achosion Busnes Gwell' neu'n 'fodel Trysorlys Ei Fawrhydi', yn fframwaith ar gyfer gwerthuso prosiectau. Mae'r model yn cynnwys yr Achos Strategol (pam?), yr Achos Economaidd (gwerth am arian), yr Achos Masnachol (sut i gaffael), yr Achos Ariannol (fforddiadwyedd) a'r Achos Rheoli (sut i gyflawni).

Caiff ei ddefnyddio, cyn bod prosiectau'n dechrau, i sicrhau bod pob cyfiawnhad drostynt, eu bod yn cynnig gwerth, eu bod yn gadarn o safbwynt masnachol ac ariannol, a bod modd eu cyflawni.

  • Achos Strategol: Mae'n cyfiawnhau'r angen am y prosiect ac yn ei alinio ag amcanion y sefydliad. Mae'n gofyn: "Pam yr ydym yn gwneud hyn?" 
  • Achos Economaidd: Mae'n asesu gwahanol opsiynau er mwyn penderfynu ar yr un sy'n darparu'r gwerth gorau am arian a'r elw gorau ar fuddsoddiad, gan ystyried y buddion a'r costau. Mae'n ateb: "Beth yw'r ffordd orau o'i wneud?" 
  • Achos Masnachol:Mae'n amlinellu sut y bydd y prosiect yn cael ei gaffael, gan gynnwys sut y bydd nwyddau a gwasanaethau'n cael eu caffael oddi wrth gyflenwyr allanol. Mae'n gofyn: "Sut y byddwn yn prynu'r ateb?" 
  • Achos Ariannol:Mae'n asesu a yw'r prosiect yn fforddiadwy ac mae'n nodi ffynhonnell y cyllid. Mae'n pennu: "Sut y byddwn yn talu amdano?" 
  • Achos Rheoli: Mae'n disgrifio sut y bydd y prosiect yn cael ei weithredu, gan gynnwys y cynllun, yr amserlen, a strwythur llywodraethiant. Mae'n mynd i'r afael â: "Sut y byddwn yn rheoli'r modd y caiff y prosiect ei gyflawni?" 

Bydd Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn gweithio gyda phrosiectau dethol i fabwysiadu'r llwybr priodol ar gyfer datblygu achos busnes. Fodd bynnag, dylech nodi bod hynny'n un o ofynion Bargen Twf Canolbarth Cymru ac y bydd angen i sefydliadau arweiniol sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau i gwblhau cam yr achos busnes ynghyd ag unrhyw brosesau ategol (e.e. cynllunio).

2.5 Costau cyfalaf cymwys

Mae Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru wedi cytuno ar yr egwyddorion canlynol.

Yr unig gyllid sydd ar gael gan Fargen Twf Canolbarth Cymru ar gyfer prosiectau yw cyllid cyfalaf. Felly, rhaid i unrhyw gostau cymwys fodloni diffiniadau cyfrifyddu safonol o wariant cyfalaf yn unol â safon IAS16. Er enghraifft:

  • Ni fyddai costau astudiaeth ddichonoldeb yn gymwys.
  • Ni fyddai costau sy'n ymwneud â pharhau i archwilio ystod o opsiynau neu atebion posibl yn gymwys.
  • Ni fyddai costau tybiannol a/neu ofer sy'n ymwneud ag opsiwn neu ateb nad eir ar ei drywydd mwyach yn gymwys.
  • Byddai costau y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i ddod ag ased cyfalaf i fodolaeth neu i wella ased cyfalaf presennol yn gymwys, os oes amcan clir a phendant yn ategu hynny. Gallai costau o'r fath gynnwys ffïoedd penseiri, ffïoedd peirianyddol neu ffïoedd proffesiynol eraill sy'n cynnwys ffïoedd uniongyrchol rheoli'r prosiect.
  • Dylai'r costau fod yn gostau cynyddrannol i'r endid y gellid bod wedi'u hosgoi pe na bai'r ased cyfalaf wedi'i adeiladu, ei wella neu'i brynu.
  • Fel rheol, ni fydd TAW sy'n ymwneud â chostau cymwys yn gost gymwys, oni all cyfrifydd cymwys ddangos ac ardystio nad oes modd adennill y TAW oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Ni fydd cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddyfarnu'n ffurfiol i unrhyw brosiect nes bod y prosiect wedi llwyddo'n llwyddiannus i gyrraedd cam yr Achos Busnes Llawn a'i fod wedyn wedi cael cymeradwyaeth gan Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru. Bydd y broses o ddyfarnu cyllid y Fargen Twf i bob prosiect hefyd yn cael ei ffurfioli drwy ddogfennau priodol, e.e. Llythyr Dyfarnu Cyllid Grant, Cytundeb Cyflawni, ac ati.

Gall costau datblygu prosiect yr aethpwyd iddynt yn ystod cyfnod yr Achos Busnes Amlinellol a'r Achos Busnes Llawn gael eu hawlio'n ôl-weithredol tuag at gostau cyffredinol y prosiect, pan fydd cyllid y Fargen Twf wedi'i ddyfarnu'n ffurfiol, cyhyd â bod y costau hynny'n bodloni diffiniadau cyfrifyddu safonol o wariant cyfalaf.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyllid ychwanegol ar gael ac mae'r amlen gyllid gyffredinol yn parhau'r un fath. Ni fydd yr un prosiect yn gallu hawlio costau datblygu prosiect o unrhyw fath ar gyfer unrhyw gyfnod cyn cam yr Achos Busnes Amlinellol.

 

 

2.6 Protocol cyhoeddusrwydd ar gyfer dyfarniadau grant

Diben

Rydym yn gofyn i bawb sy'n derbyn grant gydnabod yn gyhoeddus y cymorth ariannol a gafwyd. Mae hynny'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r modd y mae buddsoddi cyhoeddus trwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau ac yn adeiladu ein heconomi ranbarthol.

Os ydych yn cynllunio unrhyw gyhoeddusrwydd (megis datganiadau i'r wasg, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu gyhoeddiadau), anfonwch neges ebost sydyn atom ymlaen llaw yn tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru er mwyn i ni allu helpu i sicrhau bod popeth yn cyd-fynd â dull cyfathrebu'r Fargen Twf.

Beth y mae angen i chi ei wneud

  • Deunyddiau cyffredinol (e.e. gwefan, taflenni, arwyddion)

o   Cynnwys logos Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a ddarperir adeg dyfarnu'r grant), a'r datganiad hwn (yn Gymraeg a Saesneg):

"Caiff y prosiect hwn ei [ariannu/ei ariannu'n rhannol] drwy Gronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru, a weithredir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhan o Tyfu Canolbarth Cymru."

"This project is [funded/part-funded] through the Mid Wales Commercial Property Investment Fund, delivered by the Mid Wales Growth Deal as part of Growing Mid Wales."

  • Ar-lein/Cyfryngau cymdeithasol

o   Os ydych yn cyhoeddi negeseuon am y prosiect:

o   Tagiwch @GrowingMidWales ar LinkedIn neu X

o   Defnyddiwch yr hashnodau: #BargenTwfCanolbarthCymru #MidWalesGrowthDeal

  • Placiau ac arwyddion

o   Ar gyfer prosiectau seilwaith, dylid gosod plac parhaol cyn pen 3 mis ar ôl cwblhau'r prosiect (nad yw'n llai na 250mm x 200mm o faint), sy'n cynnwys y logos a'r datganiad ynghylch ariannu.

  • Os byddwch yn creu datganiad i'r wasg

o   Cysylltwch â ni'n gyntaf. Mae'n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ebost: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru

  • Digwyddiadau (os yn cynnwys y cyhoedd)

o   Os byddwch yn cynnal digwyddiad sy'n gysylltiedig â'r prosiect, defnyddiwch y logos a'r datganiad ar wahoddiadau a baneri, a rhowch wybod i ni amdano.

  • Fideo neu gynnwys gweledol

o   Ychwanegwch y logos am 3 eiliad ar y diwedd a cheisiwch gynnwys isdeitlau dwyieithog os yw hynny'n bosibl.

  • Canllawiau brandio:

o   Defnyddiwch logos swyddogol Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a ddarperir adeg dyfarnu'r grant).

o   O ran y logos, cadwch y cyfan yn glir, yn gytbwys a heb ei anffurfio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

o   Peidiwch â thocio nac ymestyn y logos.

o   Gosodwch y logos yn glir ar unrhyw ddeunydd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y cyhoedd.

  • Iaith a hygyrchedd

o   Rhaid i bob cyhoeddusrwydd fod yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Gellir cynnwys costau cyfieithu yn eich cyllideb ar gyfer y grant.

  •  Angen cymorth?

o   Rydym yma i helpu i wneud y cyfan yn rhwydd. Cysylltwch â ni yn tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru gydag unrhyw ymholiadau neu os ydych yn ansicr ynghylch eich cynlluniau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu