2. Dogfennau Canllaw
2.3 Strategaethau ategol Bargen Twf Canolbarth Cymru
I sicrhau cysondeb a safonau uchel ar draws Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, cytunwyd ar y strategaethau canlynol ar gyfer rheoli prosiectau. Caiff sefydliadau arweiniol eu hannog yn daer i fabwysiadu'r dulliau gweithredu hyn wrth ddatblygu a chyflawni eu prosiectau. Bwriad y strategaethau yw:
- Hybu cysondeb wrth gyflawni ac adrodd.
- Cryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.
- Hybu camau effeithiol i reoli risg a gwireddu buddion.
- Cyd-fynd â disgwyliadau Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a phartneriaid mewn llywodraethau.
Dylai sefydliadau arweiniol ystyried y strategaethau hyn wrth sefydlu eu trefniadau mewnol ar gyfer rheoli prosiectau:
- Llywodraethiant ac adrodd
- Rheolaeth ariannol
- Rheoli risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau
- Rheoli buddion
- Caffael
- Rheoli newid
- Sicrwydd.
