Toggle menu

1. Canllaw i Ddefnyddwyr

1.4 Y broses gwneud cais

Mae'r broses hon yn cynnwys pedwar cam, sy'n galluogi Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru i adnabod prosiectau sy'n ymgeiswyr hyfyw i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru neu i'w cofrestru yn rhestr strategol Tyfu Canolbarth Cymru o brosiectau arfaethedig.

1.4.1 Galwad Ffurfiol

Bydd Galwad Ffurfiol yn cael ei chyhoeddi er mwyn gwahodd sefydliadau i gyflwyno mentrau a syniadau ynghylch prosiectau i'w hystyried dan Fargen Twf Canolbarth Cymru. Bydd yr alwad hon yn cael ei hyrwyddo'n eang ar draws amryw sianelau cyfathrebu er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd ac yn cynnwys cymaint o sefydliadau ag sy'n bosibl.

P'un a fyddwch yn dod i wybod am y cyfle drwy alwad ffurfiol neu mewn ffordd arall, cewch eich annog yn daer i gael trafodaeth gychwynnol â Swyddfa Rheoli'r Portffolio. Bydd y Swyddfa yn eich helpu i ddeall paramedrau Bargen Twf Canolbarth Cymru ac yn asesu a yw eich cynnig yn cyd-fynd â dyheadau strategol y rhestr o brosiectau arfaethedig.

Os bernir bod potensial yn perthyn i'ch syniad, cewch eich gwahodd yn ffurfiol i gyflwyno Ffurflen yr Asesiad Strategol, y mae'n rhaid ei llenwi a'i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026 fan bellaf.

Bydd pob cais yn cael ei adolygu. Bydd y cynigion cryfaf - y rhai sy'n dangos bod ganddynt aliniad strategol clir, bod modd iddynt gael eu cyflawni ac y byddant yn cael effaith - yn cael eu hystyried i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Mae'n bosibl y bydd cynigion eraill sy'n dangos addewid ond nad ydynt yn barod eto'n cael eu hychwanegu at Gofrestr Prosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru i'w hystyried yn y dyfodol.

1.4.2 Ffurflen yr Asesiad Strategol

Caiff sefydliadau eu gwahodd i lenwi Ffurflen yr Asesiad Strategol, sy'n canolbwyntio ar ddau faes asesu allweddol:

  • Gwerth strategol: Pa mor dda y mae'r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion Bargen Twf Canolbarth Cymru a blaenoriaethau rhanbarthol.
  • Parodrwydd: Parodrwydd prosiect i symud yn ei flaen, sy'n cynnwys cynllunio, adnoddau a'r gallu i gyflawni.

Rhaid i'r cais gorffenedig gael ei gyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026 fan bellaf.

1.4.3 Proses asesu annibynnol

Bydd yr holl geisiadau a gyflwynir yn mynd drwy broses wirio annibynnol a gyflawnir gan gynghorwyr allanol a benodir ar ran Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Yn rhan o'r broses honno, bydd yna waith ymgysylltu wedi'i dargedu â chynigion dethol er mwyn archwilio'n fanylach ddichonoldeb, aliniad strategol a'r potensial i gyflawni.

Bydd y broses asesu annibynnol yn cael ei chwblhau erbyn 28 Chwefror 2026.

1.4.4 Dewis a chytuno

Bydd argymhellion ynghylch cynnwys prosiectau ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ym mis Mawrth 2026.

Bydd yr holl fentrau sydd wedi'u gwirio yn annibynnol drwy'r broses asesu'n cael eu cofnodi ar Gofrestr Prosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru.

Mae'n bosibl y bydd prosiectau cryf o ran eu haliniad strategol a'u parodrwydd yn cael eu dewis i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Bwrdd.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu