1. Canllaw i Ddefnyddwyr
1.1 Trosolwg
1.1.1 Yn gyffredinol
I sicrhau llwyddiant parhaus Bargen Twf Canolbarth Cymru, rhaid i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ystyried cynlluniau wrth gefn pe bai rhai prosiectau'n methu â symud yn eu blaen neu'n methu â chyflawni'r buddion a ddisgwylir ganddynt. Bydd adolygiad cynhwysfawr o'r Portffolio presennol yn helpu i adnabod mentrau sy'n tangyflawni ac yn helpu i benderfynu a ddylai rhai prosiectau gael eu terfynu'n gynnar dan ddull gweithredu sy'n golygu 'methu'n gyflym'.
Ar yr un pryd, ceir cyfle gwerthfawr i gyflwyno prosiectau newydd i Bortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Rhaid i unrhyw ddarpar brosiect ddangos aliniad strategol ag amcanion buddsoddi'r Fargen Twf a dangos parodrwydd i symud yn gyflym. Bydd cyfres o ffactorau llwyddiant allweddol yn arwain camau cyson a thryloyw i asesu'r prosiectau a fydd wedi gwneud cais.
Bydd creu rhestr gadarn o brosiectau arfaethedig sydd wedi'u halinio yn dda ac sy'n barod ar gyfer buddsoddiad yn galluogi'r Bwrdd i ymateb yn sydyn i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg. Bydd cefnogi mentrau hyfyw, a pharatoi opsiynau amgen credadwy ar yr un pryd, yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ac i bartneriaid mewn llywodraethau bod cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol a hyblyg posibl a gyda'r bwriad strategol eithaf.
1.1.2 Ein hamcanion buddsoddi
Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyflawni'r canlyniadau canlynol erbyn 2032:
- Ehangu ein heconomi: Datblygu cyfleoedd newydd o'n hasedau - gan ganolbwyntio ar werth uchel ac ar gyfleoedd sy'n hybu twf.
o I greu rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi newydd net, cyfwerth ag amser llawn yn y canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032
o I gefnogi cynnydd ychwanegol net mewn Gwerth Ychwanegol Gros, sydd rhwng £570 miliwn a £700 miliwn ar gyfer economi'r canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032
o I fuddsoddi cyfanswm o rhwng £280 miliwn a £400 miliwn yn economi'r canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032
§ O leiaf £170 miliwn ar ffurf buddsoddiad gan y sector preifat
- Cryfhau ein heconomi: Cynorthwyo ein diwydiannau a'n gweithlu presennol i fod yn fwy cydnerth, drwy feithrin capasiti a chreu'r amodau cywir ar gyfer twf yn y dyfodol.
- Cysylltu ein heconomi: Gwella cysylltedd digidol o fewn y rhanbarth, ar ei draws a'r tu allan iddo er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn lle deniadol i weithio, byw a chwarae ynddo.
1.1.3 A yw'r cyfle hwn yn addas i'ch sefydliad chi?
A yw eich prosiect yn barod i helpu i lunio dyfodol y canolbarth? Rydym yn chwilio am brosiectau uchelgeisiol sydd wedi'u halinio yn strategol i ymuno â Rhestr o Brosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:
- A yw eich sefydliad yn sbarduno newid trawsnewidiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi ranbarthol?
- A yw eich prosiect yn cyd-fynd ag amcanion buddsoddi Bargen Twf Canolbarth Cymru?
- A all eich prosiect gael ei ddatblygu a'i gyflawni o fewn amserlen y Fargen Twf?
- A fydd cymorth gan Fargen Twf Canolbarth Cymru yn galluogi eich prosiect i fod yn fwy uchelgeisiol ac i gyflawni buddion mwy helaeth?
Os gwnaethoch roi ateb cadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, gallai eich prosiect fod yn ymgeisydd cryf i'w gynnwys yn Rhestr o Brosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru.
Drwy gyflwyno eich cynnig, byddwch yn helpu i sicrhau bod y canolbarth yn barod i weithredu'n gyflym pan fydd cyfleoedd o ran cyllid yn codi - gan gryfhau ein Portffolio a chyflymu twf rhanbarthol.
