1. Canllaw i Ddefnyddwyr
1.3 Pethau y mae angen i chi eu gwybod
1.3.1 Y prif egwyddorion
Cyn cyflwyno cynnig, rydym yn argymell yn daer eich bod yn cael sgwrs gychwynnol â'n Swyddfa Rheoli Portffolio. Gallwch gysylltu â'r tîm yma: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
Er mwyn i brosiectau gael eu hystyried i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, rhaid iddynt fodloni'r egwyddorion craidd canlynol:
- Aliniad strategol
Rhaid bod y prosiectau'n cyd-fynd â gweledigaeth Tyfu Canolbarth Cymru a'u bod yn cyfrannu i amcanion buddsoddi Bargen Twf Canolbarth Cymru—megis creu swyddi, cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros, a denu buddsoddiad ychwanegol. - Datblygu achos busnes
Rhaid i bob prosiect a ddewisir ddilyn Model Busnes 5 Achos Trysorlys Ei Fawrhydi. Bydd Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn darparu arweiniad a chymorth drwy gydol y broses honno. - Safonau rheoli prosiect
Rhaid i'r prosiectau ddangos trefniadau cadarn ar gyfer y canlynol:- Cynllunio i gyflawni
- Rheoli risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau
- Gwireddu buddion
- Monitro a gwerthuso
- Llywodraethiant ac adrodd
- System adrodd ganolog
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gweithredu platfform adrodd canolog. Mae'n ofynnol i bob prosiect ddefnyddio'r system hon i reoli prosiect a darparu diweddariadau rheolaidd ynghylch cynnydd. - Gofynion o ran cyllid
- Rhaid i sefydliadau sy'n noddi sicrhau o leiaf 60% o gyfanswm y costau cyfalaf, yn ogystal â sicrhau'r refeniw angenrheidiol i gynorthwyo i ddatblygu'r prosiect a pharatoi achos busnes.
- Dim ond ar ôl i Achos Busnes Llawn gael ei gymeradwyo y bydd cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddyfarnu.
- Gellir hawlio costau datblygu cyfalaf cymwys yn ôl-weithredol o'r adeg y caiff yr Achos Busnes Amlinellol ei gymeradwyo.
- Y broses ddiofyn ar gyfer hawlio costau cyfalaf yw drwy daliadau bob chwarter am gostau yr aethpwyd iddynt.
- Nid oes unrhyw gyllid ar gael ymlaen llaw i ddatblygu prosiectau. Fodd bynnag, pan fydd grant wedi'i ddyfarnu, gellir hawlio costau cymwys yn ôl-weithredol.
- Caiff unrhyw gostau cyflawni cymwys hefyd eu hawlio'n ôl-weithredol bob chwarter.
PWYSIG: Mae'n hanfodol cynllunio yn ofalus. Dylech sicrhau bod gan eich prosiect amserlen glir, amcangyfrifon realistig o gostau, a mynediad i'r arbenigedd proffesiynol sy'n ofynnol i ddatblygu achos busnes cryf.
1.3.2 Beth y byddwn yn ei ariannu
Bydd pob prosiect a gefnogir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd a gytunwyd. Ym mhob achos, ni fydd cyfraniad Bargen Twf Canolbarth Cymru yn fwy na 40% o gyfanswm costau cyfalaf y prosiect. Rydym yn ariannu prosiectau:
- Sy'n cyd-fynd ag o leiaf un o flaenoriaethau strategol Tyfu Canolbarth Cymru:
o Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod- Adeiladu ar sylfaen amaethyddol fywiog a photensial o ran arloesi er mwyn arwain datblygu bwyd sy'n uchel ei werth
o Ymchwil Gymhwysol ac Arloesi- Ysgogi asedau ymchwil a datblygu a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn hybu cynhyrchiant a chystadleurwydd
o Cynnig Cryfach ar gyfer Twristiaeth- Manteisio ar asedau naturiol a diwylliannol er mwyn tyfu economi ymwelwyr sy'n gydnerth ac yn uchel ei gwerth
o Ynni - Sicrhau bod y canolbarth yn arwain ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ym maes systemau ynni'r dyfodol
o Cefnogi Menter- Creu'r amodau i fusnesau ddechrau, tyfu a ffynnu gyda'r seilwaith a'r cymorth cywir
o Digidol - Buddsoddi mewn seilwaith digidol er mwyn datgloi potensial economaidd a mynediad gwell i wasanaethau
o Trafnidiaeth- Gwella cysylltedd er mwyn hybu twf busnesau, hybu gallu llafur i symud o le i le, a hybu integreiddio rhanbarthol
o Sgiliau a Chyflogaeth- Sicrhau gweithlu medrus sy'n diwallu anghenion diwydiannau ac sy'n hybu cyfranogiad economaidd cynhwysol
- Sy'n ystyried pob un o'r tri amcan buddsoddi:
o Cyfanswm buddsoddiad cyfalaf o £280-400 miliwn
o 1,100 i 1,400 o swyddi ychwanegol net, cyfwerth ag amser llawn
o £570-700 miliwn o Werth Ychwanegol gros ychwanegol net
- Sydd â chynllun cyflawni clir a strwythuredig sy'n cynnwys dechrau, canol a diwedd pendant.
- Sy'n dangos angen clir am fuddsoddiad gan Fargen Twf Canolbarth Cymru, sy'n dangos sut y bydd y cyllid yn datgloi neu'n cyflymu gwaith cyflawni ac effaith.
Gall Bargen Twf Canolbarth Cymru gefnogi ystod eang o gostau cyfalaf uniongyrchol, gan gynnwys y canlynol:
- Gwaith cyfalaf- megis codi eiddo newydd, ymestyn a moderneiddio eiddo, a phrosiectau cadwraeth.
- Ffïoedd a gwasanaethau proffesiynol- sy'n cynnwys dylunio, cynllunio, ac ymgynghori technegol.
- Costau gwaith hyrwyddo a digwyddiadau- sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect.
- Yswiriant sy'n ymwneud â phrosiectau- os yw'n ofynnol i gyflawni cyfalaf.
- Caffael tir- a chostau cyfreithiol neu drafodaethol cysylltiedig â hynny.
Nodwch: Mae arweiniad manwl ar gael ynghylch costau cyfalaf cymwys. Dylech gysylltu â Swyddfa Rheoli'r Portffolio i gael rhagor o wybodaeth.
1.3.3 Eich cyfraniad chi i gostau'r prosiect
Bwriedir i Fargen Twf Canolbarth Cymru ysgogi cyllid ar y cyd gan bartneriaid prosiectau ar draws y Portffolio cyfan.
Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth gan Fargen Twf Canolbarth Cymru:
- Rhaid i sefydliadau arweiniol sicrhau o leiaf 60% o gyfanswm costau cyfalaf y prosiect.
- Gall y cyfraniad hwnnw gynnwys:
- Cyfraniadau sydd ar ffurf arian parod a chyfraniadau nad ydynt ar ffurf arian parod
- Gwerth safle neu dir
- Cyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys grantiau gan gyllidwyr eraill yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
Bwriedir i gyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru ategu—yn hytrach na disodli—ffynonellau buddsoddi eraill. Bydd dangos trefniadau cadarn ar gyfer cyllid ar y cyd yn cryfhau achos eich prosiect dros gael cymorth.
1.3.4 Hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg
Rhaid i bob prosiect a gefnogir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru hyrwyddo ac adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru yn weithredol. Mae hynny'n cynnwys sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg ym mhob agwedd ar y gwaith o gyflawni'r prosiect.
Rhaid i ymgeiswyr:
- Ddangos sut y byddant yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg drwy gydol oes y prosiect.
- Adlewyrchu hunaniaeth ddwyieithog y rhanbarth mewn gwaith cyfathrebu, ar arwyddion, mewn digwyddiadau ac wrth ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.
Yn ogystal, rhaid i brosiectau lynu wrth y canlynol:
- Safonau'r Gymraeg sydd wedi'u nodi gan Gomisiynydd y Gymraeg a'u mabwysiadu gan Gyngor Sir Ceredigion.
- Yr egwyddorion a amlinellir ym Mholisi Cyngor Sir Ceredigion ynghylch y Gymraeg ar gyfer Dyfarnu Grantiau, a ddefnyddir wrth asesu ceisiadau er mwyn sicrhau y cydymffurfir â rhwymedigaethau ieithyddol.
1.3.5 Rheoli cymorthdaliadau
Mae unrhyw gyllid a ddyfernir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhwym wrth ofynion Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Mae'r ddeddfwriaeth honno'n llywodraethu'r modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd, ac yn sicrhau nad yw cymorth o'r fath yn gwyrdroi cystadleuaeth neu fasnach.
Y diffiniad o gymhorthdal yw cymorth ariannol o arian cyhoeddus, sy'n rhoi mantais economaidd i fusnes sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau masnachol. Mae cymorth o'r fath yn cynnwys grantiau, benthyciadau, gwarantau a mathau eraill o gymorth.
Pwyntiau allweddol i ymgeiswyr:
- Dylech ymgyfarwyddo â Chanllawiau Statudol y DU ynghylch Rheoli Cymorthdaliadau er mwyn deall sut y gallai'r rheolau fod yn berthnasol i'ch prosiect.
- Mae tîm Tyfu Canolbarth Cymru yn gyfrifol am benderfynu a yw grant arfaethedig yn cydymffurfio â'r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau.
- Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gwblhau ein hasesiad ac yn cadw'r hawl i gyflwyno gofynion pellach er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
- Bydd yr holl ddyfarniadau a gymeradwyir yn cael eu cyhoeddi ar Gronfa Ddata Llywodraeth y DU ar gyfer Tryloywder Cymorthdaliadau, fel sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Nodwch: Nid oes angen i brosiectau unigol sy'n cael cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru gyflwyno eu hasesiadau rheoli cymorthdaliadau eu hunain. Bydd hynny'n cael ei reoli'n ganolog yn rhan o broses lywodraethiant y rhaglen.
