Os caiff eich 'Cynnig Hyfywedd' cynharach ei gymeradwyo, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig' gan ddefnyddio'r ffurflen hon. Bydd eich cynnig yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol.
Cyn cyflwyno eich cynnig, sicrhewch eich bod wedi darllen y Canllaw i Ddefnyddwyr (sydd ar gael ar dudalen y Gronfa ar y we) y bwriedir iddo eich cynorthwyo. Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa i'w chael yno hefyd.
Mae'r Cam Datblygu hwn yn ein helpu i ddeall potensial eich prosiect yn llawn ac a yw'n addas i gael grant gan y Gronfa.
Dylech ganiatáu digon o amser i lunio eich 'Cynnig Datblygedig', gan fynd drwy fanylion eich prosiect i sicrhau eu bod wedi'u hystyried yn llawn erbyn yr adeg y byddwch yn cyflwyno'r cynnig i ni. Bydd angen i chi feithrin dealltwriaeth well o'r costau, yr adnoddau, yr amserlen, ac anghenion eich menter (a allai olygu hefyd bod angen ymgynghori â'ch cwsmeriaid). Dylech ddefnyddio'r wybodaeth honno i gryfhau eich cynnig.
Pan fyddwch yn barod, dylech anfon y ffurflen yn electronig i'r cyfeiriad ebost isod. Os caiff eich 'Cynnig Datblygedig' ei gyflwyno ar eich rhan gan gynghorydd busnes, byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych yn eich gwaith papur ar gyfer unrhyw gyfathrebu'n ymwneud â'ch ymholiad, oni bai eich bod yn nodi fel arall.
Gofyniad o ran cyllid ar y cyd
Rhaid eich bod yn gallu cyfrannu o leiaf 55% o gostau cyfan eich prosiect. Gall hynny gynnwys cyfraniadau sydd ar ffurf arian parod a chyfraniadau nad ydynt ar ffurf arian parod, costau safle neu gyfuniad o bob un o'r rhain.
Os yw eich prosiect yn cael cyllid gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill, gall hynny gael ei ystyried yn rhan o'ch cyllid ar y cyd. Fodd bynnag, bydd gwerth cyfraniad(au) o'r fath yn cael ei ychwanegu at werth y grant a geisir gan y Gronfa hon. Ni all gwerth cyfun pob cyfraniad o'r fath fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m, h.y. bydd y gyfradd ymyrryd gan y Gronfa hon yn cael ei gostwng er mwyn ystyried cyllid ar y cyd gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill.
Os yw gwaith ar eich prosiect wedi dechrau (gan gynnwys os oes eitemau wedi'u harchebu), ni fydd yn cael ei ystyried yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Amserlenni o'r dechrau i'r diwedd
Pan fyddwn wedi cael eich ffurflen, byddwn yn asesu eich cynnig.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo, byddwch yn cael Dyfarniad Grant Dros Dro.
Pan fydd Cam 4 RIBA wedi'i gwblhau (gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr), byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn dal mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r prosiect. Pan fyddwch wedi cadarnhau hynny wrthym, byddwch yn cael Dyfarniad Grant Terfynol.
Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar y broses, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Rheoli'r Gronfa drwy ebost yma tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru