Toggle menu

Arloesi i optimeiddio gridiau gwledig drwy gymunedau amaethyddol

Sut y gellir defnyddio arloesedd i reoli galwadau ar gridiau ynni gwledig, gan ddefnyddio'r rhyngweithio rhwng y sector amaeth a'r sector diwydiannau tir a chymunedau gwledig, gan ddarparu atebion i gyflymu datgarboneiddio?

Mae'r Cynllunio Ynni Ardal Leol (CYALl) ar gyfer Powys a Cheredigion yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad o £559 miliwn mewn seilwaith grid ar draws y rhanbarth, er mwyn hwyluso'r trosglwyddiad ynni i sero net. Gall rheoli'r galw ar gridiau gwledig mewn ffyrdd mwy arloesol yn helpu i leihau'r cost hwn, tra hefyd â'r potensial ar gyfer budd ehangach. Doedd peiriannau amaethyddol ac allyriadau o ddefnydd tir, sydd ill dau yn rhan sylweddol o allyriadau'r rhanbarth, ddim yn rhan o gwmpas y CYALl. Os caiff peiriannau amaethyddol eu trydaneiddio, bydd yn creu galw ychwanegol ar grid cyfyngedig.

Mae angen cynyddu capasiti is-orsafoedd ar draws pob parth yn y ddau awdurdod lleol, hyd at 51 MW ym Mhowys a 31 MW yng Ngheredigion, sy'n debygol o gymryd amser. Mae gan Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)  y potensial i ddarparu ateb mwy cost-effeithiol a chynaliadwy i'r broblem hon. Yn ogystal, gall lleihau a gwneud y gorau o'r galw ar seilwaith y grid gwledig gynyddu'r cyflymder y gall prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd gael eu datblygu a gwella sut mae'r gymuned leol yn eu gweld.

Mae gan Ganolbarth Gwledig Cymru gymuned amaethyddol gref ac yn sector economaidd pwysig gyda nifer fawr o weithwyr ar draws y rhanbarth. Credwn fod yr her hon yn rhoi cyfle i gyflenwyr arloesi i ddatblygu atebion newydd a deallus a all gefnogi datgarboneiddio'r diwydiant amaethyddol yn ogystal â'r rhanbarth ehangach. Gall yr economi wledig ehangach hefyd chwarae rhan yn y prosiect, er enghraifft datgarboneiddio cadwyni cyflenwi lleol; sicrhau mwy o fudd i'r ardal. 

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi llwyddo i wneud cais i gronfa her Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan mewn Datgarboneiddio (WSRID) Llywodraeth Cymru. Dyma'r newyddion diweddaraf:

Prosiect ynni glân newydd yn archwilio hydrogen gwyrdd ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru

18.02.26 Mae prosiect ynni glân newydd ym Mhontarfynach, Ceredigion, wedi ymuno â phortffolio cynyddol o weithgarwch arloesi sy'n cael ei gefnogi drwy Dyfu Canolbarth Cymru, gan archwilio sut y gallai hydrogen gwyrdd a gynhyrchir yn lleol helpu i leihau allyriadau yn y sector coedwigaeth.

Forestry sector

Prosiectau Canolbarth Cymru yn symud i'r cam prototeipiau i ddarparu atebion ynni glân yn y byd go iawn

13.11.25 Mae'n bleser gan Tyfu Canolbarth Cymru gyhoeddi y bydd y rhaglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID), a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Tyfu Canolbarth Cymru, yn parhau.

W2W system
LAFAN system

Atebion Clyfar ar gyfer Ffermio Cynaliadwy: Datgarboneiddio Amaethyddiaeth yng Nghanolbarth Cymru

26.06.26 Mae Cam 1 y rhaglen Ymchwil ac Arloesi System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID) - a ddarperir gan Tyfu Canolbarth Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru - wedi dod â mewnwelediadau gwerthfawr i sut y gall Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) gefnogi datgarboneiddio ar draws yr economi wledig.