Toggle menu

Arolygon diweddaraf

Arolwg Ymgysylltu - Dweud eich dweud: llunio arloesedd mewn Agri-Dechnoleg a Bwyd-Dechnoleg

Gwahoddir busnesau a rhanddeiliaid ledled Canolbarth Cymru i gymryd rhan mewn arolwg byr i helpu llunio dyfodol y Clwstwr Agri-Dechnoleg a Bwyd-Dechnoleg ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru.

Yn agored i aelodau presennol y clwstwr ac i'r rhai nad ydynt yn aelodau, bydd yr arolwg yn helpu i greu darlun cliriach o ymwybyddiaeth, ymgysylltiad ac effaith y gweithgarwch clwstwr a gyflwynir drwy raglen Launchpad Innovate UK.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan fusnesau sydd wedi derbyn cyllid gan Innovate UK neu ffynonellau eraill. Bydd y mewnwelediadau'n ein helpu i ddeall sut mae busnesau'n manteisio ar gyfleoedd, pa gymorth sydd fwyaf gwerthfawr, a ble y gallai fod rhwystrau i ymgysylltu.

Bydd eich adborth yn llywio gweithgarwch, cymorth a buddsoddiad yn y dyfodol yn uniongyrchol—gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion busnesau ar draws y rhanbarth.

Cymerwch ran yn yr arolwg: https://bit.ly/AgriFoodTechSurvey (Cliciwch ar y tab Iaith ar y dde uchaf i newid i fersiwn Gymraeg yr arolwg.)

Dyddiad cau: 20 Mehefin

 diddordeb mewn ymuno â'r clwstwr? Dysgwch fwy: https://www.tyfucanolbarth.cymru/TechAmaethTechBwyd

Arolwg ymgysylltiad TechAmaeth TechBwyd